Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn gordewdra o blith plant yn ystod y cyfnod clo – yn Lloegr, ac yn arbennig felly ar aelwydydd tlawd.

Ond does neb yn gwybod beth yw maint y broblem yng Nghymru ers i COVID-19 daro gan fod y Rhaglen Mesur Plant wedi ei rhoi o’r neilltu dros dro, meddai’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant wrth Golwg.