Ymateb gwledydd Prydain i ryfel Wcráin sy’n mynd â sylw’r blogwyr … faint o ffoaduriaid sy’n cael croeso… pa mor galed ydi’r sancsiynau yn erbyn yr oligarchiaid …

“Hyd yn hyn, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi llwyddo i osod sancsiynau ar 680 o unigolion sy’n gysylltiedig â gweinyddiaeth Putin, tra bod y Deyrnas Unedig wedi llwyddo i gyrraedd y cyfanswm gwych o 8. Mae hyn, yn ôl llywodraeth y DU yn enghraifft o’r ffordd y mae’r DU, wedi Brexit, yn ‘arwain y byd’. Hoffwn i ddim dyfalu am y canlyniad pe na baen ni’n arwain y byd. Dim syndod bod llusgo traed y DU yn arwain at rywfaint o rwystredigaeth mewn prifddinasoedd Ewropeaidd eraill sy’n methu â deall pam fod y DU, yn unig, mor barod i roi digon o rybudd i’r unigolion symud eu harian cyn ei rewi. Yn amlwg, dydyn nhw ddim yn deall dulliau ariannu’r Blaid Geidwadol…” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com ddiwedd yr wythnos ddiwetha’).

A fyddai pethau’n wahanol pe bai Cymru’n gwneud ei phenderfyniadau ei hun ar hyn? Pwy a ŵyr, ond mae Richard Wyn Jones ar nation.cymru yn dweud bod y polau diweddara’n dangos bod y rhan fwya’ o bobol Cymru – ar ddwy ochr dadl Brexit – eisiau amddiffyn datganoli rhag cael ei danseilio …

“… sut fydd etholwyr yn ymateb os yw llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau ar ei llwybr presennol o leihau gallu’r llywodraeth ddatganoledig mewn meysydd gweithredu craidd fel datblygu economaidd er mwyn – fel y byddai’n hawlio – sicrhau bendithion honedig Brexit?… Tra na fydd hi’n ddim syndod bod mwyafrif llethol Arhoswyr (Remainers) yn gwrthod y syniad o leihau pwerau datganoli er mwyn sicrhau buddiannau Brexit, mae mwyafrif bychan o Adawyr (Leavers) Cymru hefyd yn rhannu’r farn hon.”

Ond, yn ôl Ifan Morgan Jones yn yr un fan, un o wendidau datganoli ydi’r crynhoi grym ac arian yng Nghaerdydd…

“Rhaid i’r dosbarth gwleidyddol yng Nghaerdydd gofio mai’r rheswm fod ganddyn nhw’r grym yn y lle cynta’ yw bod pobol ledled Cymru’n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu yng nghoridorau grym yn Llundain. Cafodd y bleidlais dros ddatganoli ei hennill o ychydig yn 1997 yn rhai o’r union fannau sydd yn awr, ddau ddegawd yn ddiweddarach, yn dal i ymlafnio i gyrraedd a chael unrhyw ddylanwad gwleidyddol yng Nghaerdydd.[Doedd y bleidlais ddatganoli] ddim yn bleidlais i greu Llundain newydd o fewn ein ffiniau, un sydd i lawer yng Nghymru yn fwy anodd ei chyrraedd na’r gwreiddiol.”

Un maes lle mae gwahaniaeth ydi tai gwyliau. Yn ôl Theo Davies-Lewis yn thenational.wales, mae’r penderfyniad i ganiatáu treblu’r dreth ar dai o’r fath yn un o ffrwythau pleidlais 1997…

“Mae yna resymau economaidd a diwylliannol tros weithredu polisïau caeth ond yr achos moesol yw’r cryfa’. Efallai y bydd y 23,000 o dai sydd eisoes wedi bod yn talu eu trethi yn cwyno am annhegwch a gwahaniaethau. Fodd bynnag, dyma’r Gymru y maen nhw’n prynu rhan ynddi: cenedl sy’n disgwyl i bobol sy’n elwa o gymunedau dalu’n sylweddol am hynny.”