Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23 wedi hollti barn yr wythnos hon.

Yn ôl Plaid Cymru – sydd â gwynt ei hwyliau ers arwyddo cytundeb cydweithio gyda’r Blaid Lafur – mae’r gyllideb yn “arwydd pendant ac ymarferol o’n hymrwymiad i helpu’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas”.