Ddiwedd y mis fe fydd digwyddiad amlgyfrwng yn cael ei gynnal ar y Maes yng Nghaernarfon am wythnos gron, yn rhan o broject i ddathlu creadigrwydd ledled gwledydd Prydain. Bydd ‘Amdanom Ni’ yn cyfuno animeiddiad wedi’i daflunio’n fyw ar waliau’r castell gyda barddoniaeth, cerddoriaeth, a pherfformiadau gan dri chôr o Gymru. Mae’r bardd Llŷr Gwyn, sy’n enedigol o’r dref, yn un o’r beirdd sydd wedi ysgrifennu cerdd ar gyfer yr achlysur…