Roedd sgrifennu o safbwynt ci yn her newydd i un o’n nofelwyr mwyaf adnabyddus, ond her y cafodd hi hwyl garw arni…

Prawf Mot yw enw nofel ddiweddaraf Bethan Gwanas, ac mae wedi ei sgrifennu yn helaeth o safbwynt ci defaid. Bu’r gwaith sgrifennu yn ddihangfa braf i’r awdur yn ystod y cyfnod clo.