Gyda chyhoeddi enw ei Gyfarwyddwr Artistig newydd, mae cwmni Theatr Genedlaethol Cymru hefyd yn newid y drefn reoli…

Daeth y newyddion ddechrau’r wythnos mai Steffan Donnelly, yr actor a’r cyfarwyddwr o Lanfairpwllgwyngyll, Môn, fydd Cyfarwyddwr Artistig newydd y Theatr Genedlaethol. Mi fydd yn olynu Arwel Gruffydd, sy’n ildio’r awenau ar ôl 11 mlynedd yn y swydd.