Rywsut neu’i gilydd, dw i wedi llwyddo i rwygo’r ewin oddi ar fys bach fy nhroed dde. Ac mae wedi bod yn boenus.

Wrth i fi hercian o fan i fan, ac o ystafell i ystafell, dw i wedi bod yn teimlo’n flin iawn drosta i fy hun.

Ond diflannodd yr hunandosturi hwnnw’n sydyn iawn wrth wylio bwletin newyddion 10 y BBC pa noson.

A chlywed am hanes Andriy, bachgen 12 oed o Wcráin, sydd â chanser yn ei feinweoedd meddal ac yn ei ysgyfaint.