“Mae o fel bod y llywodraeth wedi colli’r ffordd ar y polisi amaeth ar hyn o bryd,” medd arweinydd Clwb Ffermwyr Ifanc Llangadog wrth drafod y defnydd o arian cyhoeddus i brynu tir fferm yn Sir Gaerfyrddin i’w droi yn goedwig.

Ddechrau’r wythnos cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi talu bron i £1.5 miliwn am 232 erw [94 hectar] o dir fferm Brownhill yn Llangadog yn Nyffryn Tywi ar gyfer plannu amrywiaeth o goed.