Dyma robin goch fach swel y sylwodd y tenor a’r ffotograffydd Aled Hall arno ‘tu fas i ddrws y bac’ yn ei gartref yn Ysgubor Lwyd, Dolgran, Pencader, Sir Gaerfyrddin, a hynny ar y bore Sul cyn Dydd San Ffolant. Mae’r canwr ar hyn o bryd yn perfformio rhan Spoletta yng nghynhyrchiad y Royal Opera House o Tosca yn Llundain