Ddydd Sadwrn fe fydd ymgyrchwyr yn ymgynnull ar Bont Trefechan yn Aberystwyth – lleoliad protest gyntaf un Cymdeithas yr Iaith yn 1963 – i nodi chwe deg mlynedd ers darlledu darlith enwog ‘Tynged yr Iaith’.
Yn 1962 proffwydodd Saunders Lewis farwolaeth yr iaith cyn diwedd y ganrif ddiwethaf oni bai bod gweithredu, a rhybuddiodd ar y pryd mai ‘Trwy ddulliau Chwyldro yn unig y mae llwyddo’ i achub y Gymraeg rhag y bedd. Fe sbardunodd ei eiriau ymgyrchwyr i dorri’r gyfraith dros y Gymraeg o’r 1960au hyd heddiw.
Ac yn 2022 mae ei eiriau’r un mor berthnasol ag erioed i aelodau Cymdeithas yr Iaith wrth i Gymru wynebu argyfwng yr ail gartrefi, yn ôl Cadeirydd y mudiad.
“Gallwn ni ddim oedi gan nad oes gan ein cymunedau ddim amser i wastraffu,” meddai Mabli Siriol.
“Rydym ni wedi bod yn ymgyrchu mor galed gydag eraill dros y misoedd diwethaf ac rydyn ni’n gweld ffrwyth yr ymdrechion yna’n barod gyda newidiadau i reoliadau cynllunio ac edrych ar newid trethu hefyd.”
Bydd Mabli Siriol yn annerch y rali ddydd Sadwrn ynghyd â’r canwr Bryn Fôn, Gwenno Teifi sy’n chwilio yn ofer am dŷ yn y gymuned lle magwyd hi, a Mared Edwards, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.
Rhai misoedd yn dilyn araith enwog Saunders Lewis yn Chwefror 1962 fe ffurfiwyd Cymdeithas yr Iaith yn Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais.
Ond er mor bwysig y buodd Saunders Lewis wrth danio’r fflam dros weithredu, mae Mabli Siriol yn gweld mai ymdrech pobl ar lawr gwlad o gyd-frwydro sydd wedi troi’r trai o ran sefyllfa’r Gymraeg dros y trigain mlynedd ddiwethaf.
“Yn amlwg mae gan y ddarlith ei hun hanes hir ac mae’n amlwg o ba mor bwysig oedd hi i ysbrydoli gweithredu ac yn rhan o’r hyn a sbardunodd sefydlu Cymdeithas yr Iaith,” meddai.
“O’n persbectif ni roedd yr alwad oedd yn ganolog i’r ddarlith, o alw pobl gyffredin Cymru i gymryd lan y frwydr dros y Gymraeg trwy ddulliau chwyldro, trwy weithredu’n uniongyrchol ac anufudd-dod sifil… mae’r alwad yna’r un mor bwysig nag erioed.
“Yn amlwg mae [Saunders Lewis yn] ffigwr adnabyddus iawn, yn enwedig i bobl sydd wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd dros yr Iaith.
“O’n safbwynt ni dydy e ddim yn fater o unigolion ar ben eu hun, gan fod cymaint o bobl wedi gweithio fel casgliad o bobl a dyna beth sy’n newid trywydd pethau.
“Mae wir yn bwysig yn ystod y cyfnod yma i ni edrych nôl ar gymaint o bethau rydyn ni wedi ennill dros y Gymraeg – o statws swyddogol, sianel deledu, Coleg Cymraeg, tyfu addysg Gymraeg ymhob rhan o’r wlad.
“Mae cymaint o bethau sydd wedi eu hennill ac i fi’r unig ffordd rydyn ni wedi newid hynny yw trwy bobl gyffredin yn ymgyrchu dros hynny.”
“Dirywiad yn digwydd ar lefel gymunedol”
Wrth i Gymru aros unwaith yn rhagor am ganlyniadau’r Cyfrifiad eleni, fe fydd eleni’n arwyddocaol wrth edrych tuag at y ddegawd nesaf o weithredu i’r Gymdeithas, yn ôl y Cadeirydd.
“Does neb yn gwybod yn iawn beth fydd yn y Cyfrifiad tan iddo ddod,” meddai Mabli Siriol.
“Roedd y Cyfrifiad diwethaf wrth gwrs yn siomedig ac mae’n eithaf amlwg i bawb fod yna ddirywiad yn digwydd ar lefel gymunedol, a bod lot o gymunedau yng Nghymru ble mae’r nifer o bobl sy’n medru’r iaith ac sy’n ei defnyddio bob dydd, mae yna ddirywiad amlwg wedi bod yn nifer y cymunedau hynny.”
Eisoes mae’r Gymdeithas wedi croesawu’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru ond yn mynnu ei bod yn “cadw llygad” ar y datblygiadau dros y tair blynedd nesaf.
“Mae gosod cap ar nifer o ail dai mewn cymuned gan edrych ar reoli rhent a mwy o dai i berchnogaeth gymunedol, mae’r rhain yn ymgyrchoedd rydyn ni wedi bod yn gwthio amdano felly mae’n dda gweld y rheini’n dwyn ffrwyth mewn llywodraeth,” meddai Mabli Siriol.
“Yr hyn rydyn ni’n galw amdano yw delio gyda’r holl broblemau yn y system dai a dydy e ddim yn eistedd ar wahân…
“Rydyn ni’n cwrdd â Gweinidog y Gymraeg a Swyddogion y Llywodraeth ac fe fyddwn ni’n cadw llygad.”
Mae’r rali ddydd Sadwrn yn un o gyfres o ralïau ‘Nid yw Cymru ar Werth’ ac mae’r achlysuron wedi denu pobl o hyd a lled Cymru.
Ond gydag amryw o gyrff cyhoeddus a mentrau iaith yn bodoli i warchod twf a ffyniant y Gymraeg, a yw Oes Aur y Gymdeithas wedi bod?
“Byddwn i ddim yn derbyn y buodd yna ryw Oes Aur i’r gymdeithas yn y gorffennol,” meddai Mabli Siriol.
“Rwy’n meddwl mai dyna yw un o’n cryfderau ni fel mudiad, mae gyda ni aelodau sydd wedi bod yn rhan o bethau ac yn gallu rhannu eu profiad a phersbectif ar bethau.
“Pan wnes i ddechrau ymgyrchu gyda’r Gymdeithas roedd hi mor bwysig ein bod ni’n parhau i ddenu pobl ifanc.”
“Un o blant anuniongyrchol Saunders”
Un o aelodau mwyaf hirhoedlog sydd wedi bod wrth galon gweithgareddau’r Gymdeithas ers degawdau lu yw Ffred Ffransis, ynghyd â’i wraig Meinir, sydd wedi treulio cyfnodau yn y carchar wrth ymgyrchu dros yr iaith.
Fe fagwyd Ffred Ffransis ar aelwyd Saesneg yn y Rhyl a’r unig gyflwyniad a gafodd i Saunders Lewis yn yr ysgol oedd fel dramodydd, ac nid tan yn hwyrach ar ôl 1962 y dechreuodd ymgyrchu gyda’r Gymdeithas.
“Roeddwn i’n gynnyrch o’r don gyntaf o gynnwrf a gweithgarwch yn hytrach na chenhedlaeth ‘Tynged yr Iaith’ ei hunan, felly rwy’n un o blant anuniongyrchol Saunders Lewis,” meddai.
Mae’n credu bod brwydr yr iaith wedi newid ychydig erbyn heddiw.
“Ar hanner canmlwyddiant Tynged yr Iaith yn 2012 roedd hi’n arwyddocaol i ni gyhoeddi ‘Tynged yr Iaith 2’ ac fe fues i’n rhan o hynny,” meddai.
“Oherwydd y gweithgarwch a fuodd yn ystod y ganrif ddiwethaf, erbyn [y ganrif hon] roedd hi’n weddol sicr y byddai’r Gymraeg yn byw.
“Y cwestiwn ar hyn o bryd ac ers 2012 yw ‘pa fath o ddyfodol fydd i’r Gymraeg fel prif neu briod iaith Cymru?’ A allwch chi ei defnyddio ymhob rhan o fywyd, neu ai goroesi fel iaith leiafrifol fydd hi?
“Bydd y rali ddydd Sadwrn yn nodi pa fath o newid sydd wedi bod.
“Pan es i i fy mhrotest gyntaf gyda’r Gymdeithas roedden nhw’n ymwneud â hawliau a statws y Gymraeg i fodoli o gwbl fel iaith swyddogol.
“Pwrpas dydd Sadwrn, felly, yw ‘a fydd dyfodol i gymunedau Cymraeg?’ ac ‘a fydd cymunedau’n gallu datblygu i fod yn Gymraeg ac yn gynaliadwy?’
“Ail ran y frwydr yw hyn felly er bod y rhan gyntaf heb ei hennill yn llwyr.”
Bydd y Gymdeithas yn ymgynnull wrth bont Trefechan am 1.30 bnawn Sadwrn, gan orymdeithio trwy Aberystwyth a chynnal rali tu allan i swyddfeydd Llywodraeth Cymru am 2.30.