Mae’n beth rhyfedd i’w ddweud fel Cymraes sentimental, ond anaml iawn fydda i’n profi hiraeth. Dw i’n gyfarwydd â’r fersiwn lenyddol, ac yn ei deimlo o dro i dro: rhywbeth yn debycach i falchder, wir, sy’n tywynnu yn fy mrest pan fydda i’n gyrru trwy’r Bannau, neu’n pasio dros Bont Hafren adeg machlud. Ond anaml iawn y bydda i’n hiraethu, go-iawn, am adre.