Mae Jess Downes, prentis ifanc yn ffatri geir Toyota, wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Miss Cymru ac yn gobeithio ysbrydoli merched ifanc eraill i fentro i faes peirianneg…

Wrth ei gwaith bob dydd yn brentis yn ffatri geir Toyota yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, mae Jess Downes fel arfer yn gwisgo trowsus trwchus, het galed a sbectol diogelwch.

Ond mae’r ferch 23 oed o Dywyn ger y Rhyl yn gobeithio cyfnewid yr het galed am goron Miss Cymru.