Bob nos Wener ers bron i ddwy flynedd, Chris Roberts yw cwisfeistr Radio Cymru, ond o ddydd i ddydd mae’n codi cwestiynau am yr hinsawdd.

Mae yn hwylusydd yn Nyffryn Ogwen gyda GwyrddNi, mudiad newydd sy’n cael ei arwain gan y gymuned er mwyn gweithredu ar newid hinsawdd.

Hanfod ei waith yw sgwrsio â phobol yr ardal er mwyn canfod eu barn ar sut i fyw yn fyw eco-gyfeillgar, a gweithredu ar y syniadau.