Mae sêr dartiau Cymru wedi bod draw i’r Senedd i dderbyn clod…

Roedd disgwyliadau Cymru’n pwyso’n drwm ar ysgwyddau Jonny Clayton ar noson agoriadol Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC ddechrau’r mis yng Nghaerdydd, wrth i’r Cymro Cymraeg o Bontyberem a phencampwr Uwch Gynghrair 2021 faglu ar y cam olaf a chael ei drechu o 6-1 yn y rownd derfynol gan yr Albanwr Peter Wright.