Ers dros ugain mlynedd mae’r ferch 28 oed o’r Felinheli ger Caernarfon wedi chwarae rhan Dani yn y gyfres ddrama boblogaidd Rownd a Rownd

Pryd wnaethoch chi gychwyn actio?

Ro’n i wedi dechrau yn Ysgol Glanaethwy pan o’n i’n bump oed a dim ond wedi gwneud ambell sioe lwyfan hefo nhw pan ges i fy nghastio fel Dani, felly dw i wedi dysgu bob dim wrth weithio ar Rownd a Rownd. Dyma’r unig job dw i erioed wedi’i chael a dw i’n ofnadwy o lwcus bo fi’n gallu dod i mewn bob dydd a chael y gwaith dw i wedi’i gael.

Ers faint ydach chi’n actio yn Rownd a Rownd?

Ro’n i yn saith oed pan ges i fy nghastio fel Dani a dw i’n 29 eleni. Wna i adael i chi wneud y syms… ond tydi o ddim yn teimlo mor hir â hynny i fi. 

Pa mor anodd ydy actio mewn opera sebon?

Roedd o’n eitha’ daunting dechra’ actio ar y teledu yn saith oed achos doeddwn i erioed wedi gwneud y fath beth o’r blaen a ro’n i’n gorfod actio hefo oedolion am y tro cynta’. Mae o’n gallu bod yn anodd weithia’ achos bod yr oriau yn hir ac mae yna lot o leins i’w dysgu achos bod Dani yn gymaint o hen geg, ond be’ sy’n ei wneud o’n lot haws ydi’r hwyl rydan ni’n gael ar set. A gan bo fi yma ers ro’n i’n blentyn, mae criw Rownd a Rownd fel ail deulu i fi. 

Sut fysa chi’n disgrifio Dani a’r profiadau mae hi wedi eu cael yn tyfu fyny?

Mae Dani’n berson pengaled iawn a fyswn i ddim yn ei chroesi hi byth ond mae hi hefyd yn berson teg. Neith hi wylltio hefo chdi heb feddwl ddwywaith, a difaru wedyn. Mae hi hefyd yn cael ei dylanwadu’n hawdd iawn gan y dynion yn ei bywyd hi a dydi hynny byth yn gorffen yn dda. Dw i’n teimlo bo fi’n gallach na hynna, gobeithio. Ella bo fi wedi dysgu ‘chydig gan brofiada Dani dros y blynyddoedd? Ond mae yna dipyn o hwyl i’w gael yn chwarae ceg y pentref a’r damsel in distress.

Beth ydych chi wedi’i ddysgu gan actorion hŷn Rownd a Rownd?

Pan wnes i ddechrau gweithio ar y gyfres, ro’n i’n lwcus i gael athrawon anhygoel yn Manon Eils oedd yn actio rhan mam Dani, Michelle, ac Emyr Gibson oedd yn chwarae Meical, a diolch byth amdanyn nhw. Mewn rhaglen fel Rownd a Rownd, mae o mor bwysig bod yr actorion hefo chemistry fel teulu go-iawn, fel bod y gwylwyr yn coelio yn y cymeriadau. Ro’n i’n ffodus iawn i gael fy hyfforddi gan ddau actor mor dda a wnes i ddysgu bob dim ganddyn nhw.

Ydych chi’n cael eich adnabod ar y stryd?

Ydw, mae pobl wastad yn dod ata fi ar y stryd. Mae ffans Rownd a Rownd yn anhygoel achos maen nhw’n poeni gymaint am y cymeriadau, ac maen nhw eisio siarad hefo fi am y straeon sydd ar y teledu ar hyn o bryd a’r pethau sy’n digwydd i Dani. Yn lwcus i fi, mae pobl wrth eu boddau hefo Dani felly dw i’n falch bod y cymeriad yn dod drwodd mor gryf ar y sgrin a bod pobl yn ymateb mor dda iddi.

Beth yw eich atgof cynta’?

Ges i’n magu, ac yn dal i fyw ar fferm, a dw i’n cofio bod yn bedair neu bump oed yn hel defaid hefo dad, yn edrych lawr ar fy wellies gwyrdd hefo llygaid broga arnyn nhw.

Beth yw eich ofn mwya’?

Pryfaid cop a fy chwaer fawr, Sioned.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Mae gen i gi lyfli, Mali, sy’n 18 mis oed ac yn boncyrs, felly mae hi’n cadw fi’n ofnadwy o brysur yn mynd am dro ar hyn o bryd.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Beyoncé, Gordon Ramsay a dad, achos fo sydd wastad yn dewis y gwin gorau! Dw i ddim eisio i Gordon dreulio’r amser yn coginio felly fysa ni fwy na thebyg yn cael tecawe Chinese… neu ginio dydd Sul mam.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Fy nai bach, Eban.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Dw i literally yn defnyddio literally drwy’r adeg.

Hoff wisg ffansi? 

Ar wahân i wisgo fel Dani bob diwrnod, wnes i joio gwisgo fel Gemma Collins ar gyfer pennod o Rownd a Rownd gafodd ei ffilmio yng Nghaerdydd y llynedd. Pwy fysa’n meddwl bo gen i gymaint o diva yndda fi?

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Pan oeddwn i ar wyliau ychydig o flynyddoedd yn ôl, ro’n i’n cerdded ar hyd y traeth yn gwisgo bicini ac yn meddwl bo fi’n edrych yn ddel pan wnes i sylwi ar bobl yn pwyntio a gweiddi arna fi. Y peth nesaf dw i’n gwybod, mae yna don fawr yn hitio fi lawr a ges i lond ceg o dywod. Embarassing iawn.

Parti gorau i chi fod ynddo?

Bob un parti gwaith Rownd a Rownd! Ond dw i ddim yn dweud dim mwy!

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Mali’r ci yn chwyrnu wrth fy ymyl.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Ydi o’n rhy cheesy os dw i’n dweud sgripts Rownd a Rownd?!

Ond go-iawn, dw i’n meddwl bod hunangofiant James Corden yn ddifyr ac mae o’n onest iawn am be’ mae o wedi bod drwyddi.

Hoff air?

Wrap!

Beth wnaethoch chi ddarganfod yn y cyfnod clo?

Dw i methu pobi cacennau.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Dw i’n gallu torri gwalltiau cŵn. A dweud y gwir, dyna un peth wnes i ddarganfod bo fi yn gallu ei wneud yn ystod y cyfnod clo!