Ar ei halbwm gyntaf mae Mari Mathias yn canu am Ferched y Beca a Siôn Cwilt y smyglwr, er mwyn ein hatgoffa o natur wrthryfelgar y Cymry…

Yr wythnos hon mae Mari Mathias yn rhyddhau’r sengl gyntaf oddi ar ei halbwm gyntaf, Annwn.

Mi fydd y ferch o Geredigion yn lansio’r sengl ‘Rebel’ drwy berfformio gyda’i band yn The Moon ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd nos Wener (11 Chwefror).

Mae hi’n gân am derfysgoedd Merched y Beca, sef pennod gythryblus o’n hanes yn 1839 pan aeth ffermwyr tlawd ati i wisgo fel merched ac ymosod ar dollbyrth. Ar y pryd roedden nhw yn gwrthwynebu gorfod talu tollau uchel am gael defnyddio ffyrdd oedd mewn cyflwr gwael, ac arweinydd yr ymosodiad cyntaf un ar dollborth oedd Twm Carnabwth.

Ac mewn byd sy’n fwyfwy technolegol ac unffurf, mae Mari Mathias am atgoffa’r Cymry bod ganddyn nhw hanes o sefyll lan drostyn nhw eu hunain.

Fe gafodd ‘Rebel’ ei sgrifennu yn y cyfnod clo ac mae Mari yn dweud bod ymgyrchoedd YesCymru tros annibyniaeth, a’r cynnydd syfrdanol yn nifer y cartrefi sy’n cael eu prynu i fod yn dai gwyliau, wedi dylanwadu arni.

Ond dylanwad yn llawer nes at adref wnaeth sbarduno’r gân yn y lle cyntaf.

Mae Mari yn ferch i Meinir Mathias, yr artist o Dalgarreg yng Ngheredigion sy’n paentio lluniau o ddynion ifanc cyfoes wedi eu gwisgo fel Merched y Beca. Mae’r cryts hyn i’w gweld yn gwisgo siôls, hetiau mawr a threinyrs, gyda sloganau fel ‘Fe godwn ni eto’ yn y cefndir.

Ac wrth wylio ei Mam yn paentio un o’r lluniau cool yma, y daeth yr ysbrydoliaeth i’r ferch fynd ati i greu.

“Dros y cyfnod clo roedd hi yn anodd i ffeindio rhywbeth oedd yn gallu sbarduno syniadau newydd,” meddai Mari, “heblaw treial sgrifennu am y cyfnod clo – a doeddwn i ddim eisiau gwneud hynny!

“Ac rwy’n cymryd ysbrydoliaeth o bob math o bethau i sgrifennu caneuon – Celf, cerddi, llyfrau.

“Felly fe es i mewn i stiwdio Mam un diwrnod ac eistedd ar stôl ac edrych ar ei phaentiad hi o Twm Carnabwth, a wnes i fynd ati i sgrifennu popeth roeddwn i yn gallu gweld a’r stori o fewn y paentiad a’r lliwiau. Unrhyw beth oedd yn dod i’r meddwl.

“Ac fe es i yn gyffroes wedyn, ac roeddwn i yn meddwl fod e’n rhywbeth eithaf neis… creu delwedd y paentiad mewn ffordd gerddorol.”

Mae ‘Rebel’ yn chwip o gân werin gyda digon o fynd ynddi, gyda Mari yn canu, chwarae’r gitâr a’r ffidil arni. Ac mae Gwilym Bowen Rhys yn canu hefyd tuag at y diwedd, yn rhoi llais i Twm Carnabwth.

Aur yn yr atig

‘Rebel’ yw’r sengl gyntaf oddi ar yr albwm Annwn fydd allan fis nesaf, ac mae yna dipyn o feddwl wedi mynd fewn i’r caneuon.

Mae’r casgliad yn cychwyn gyda sampl o Hen Dad-cu Mari yn canu. Fe gafodd llais William John Thomas ei recordio ar dapiau casét yn y 1980au.

A nawr, yn 2022, mae i’w glywed yn canu eto.

“Dros y cyfnod clo wnes i fynd i’r atig, ac roeddwn i jest yn bôrd, yn edrych trwy focsys,” cofia Mari, “a ffeindies i’r tapiau yma, a dechrau gwrando arnyn nhw, a meddwl: ‘O! Mae yn rhaid i mi ddefnyddio’r rhain fel sampl i ganeuon. Mae Hen Dad-cu wedi recordio’r rhein’.

“Ac roeddwn i moyn iddyn nhw fynd i rywle, dim cael eu cadw mewn bocsys.”

Sôn am ddarganfod trysor teuluol yn yr atig!

Ar gychwyn yr albwm felly mae William John Thomas i’w glywed yn canu cân o’r enw ‘Cartref’ sydd wedi ei phasio lawr o un genhedlaeth i’r llall o fewn teulu Mari.

“Cân draddodiadol ardal Ceredigion, Sir Benfro yw hi.

“A fi’n cofio Mam-gu ar ochr Mam yn canu fe o hyd, a fi wastad yn cofio canu fe gyda hi yn y car.

“Felly pan ffeindies i’r gân yna [yn yr atig] roedd e fel: ‘O! Dyna o ble mae fe wedi dod!’”

Ac mae Mari yn credu bod cychwyn y casgliad gyda ‘Cartref’ yn ffordd hynod briodol i gyflwyno’r gwrandawyr i’r hyn sydd dan sylw ar Annwn.

“Mae fe’n dweud y thema yn syth am yr albwm – cartref yw beth sy’n bwysig,  a theulu, pobol.

“Felly mae hwnna yn seto fe lan yn neis.”

Cri dros Gymru

Yn ogystal â chanu am Ferched y Beca a Twm Carnabwth, mae Mari yn canu am un o adar brith Ceredigion ar y gân ‘Y Cwilt’. Smyglwr yn y ddeunawfed ganrif oedd Siôn Cwilt, yn delio mewn nwyddau fel brandi ar y slei, fel nad oedd yn gorfod talu trethi.

Pam bod Mari wedi ei denu i ganu am y rebels hyn?

“Rydw i’n meddwl bod y cymeriadau yma wastad wedi bod yn rhan o straeon mae Mam a Tad-cu wedi eu rhannu i ni.

“Ac rwy’n credu bod rhywbeth dirgelus am y cymeriadau yma wedi tynnu fi atyn nhw, achos mae’r cymeriadau yma wedi cael eu siarad lawr amdano, fel: ‘O, smyglwr oedd e’ neu ‘Rebel oedd e’.

“Ond rwy’n credu mai beth oedd tu ôl i beth roedden nhw yn ei wneud sy’n bwysig.

“Roedd Siôn Cwilt yn smyglwr, ond roedd e’n smyglo pethe ar gyfer y gymuned. Felly mewn ffordd, roedd y gymuned yn edrych lan i Siôn Cwilt.

“Ac wedyn Merched y Beca, pobol yn dweud fod e’n ddireudus a ddim yn iawn. Ond wedyn roedd y cymunedau yn diolch iddyn nhw am sefyll lan i beth oedden nhw ddim yn gallu.

“Felly rwy’n credu fod e am arweinwyr yn sefyll lan dros eu hunain… roedd busnes yr ail gartrefi a YesCymru hefyd wedi fy nharo [wrth sgrifennu’r caneuon], a bod y themâu yma i gyd yn dod ata i.

“Roedd yn glir i fi bod angen creu caneuon sy’n anogi pobol Cymraeg i sefyll lan drosdo ni’n hunain.”

Mae Mari yn ymhelaethu bod yr albwm i wneud â “mynd nôl i’n gwreiddiau ni a chofio o ble’r ydyn ni wedi dod… mae rhywbeth ambyti’r straeon yma, maen nhw wedi cael eu rhannu trwy’r cymunedau.

“Ond fi yn teimlo, yn enwedig dros y cyfnod clo, gan bod pobol ddim yn gallu cwrdd lan a rhannu, rwy’n teimlo fod y straeon yma yn mynd ar goll, mewn ffordd.

“Ac rwy’n credu ei fod e’n rhywbeth pwysig i treial cadw’r elfennau yma sydd wedi creu Cymru.”

 

Mae’r sengl ‘Rebel’ allan ar 11 Chwefror, ‘Y Cwilt’ i ddilyn ar 11 Mawrth, a’r albwm Annwn ar 20 Mawrth.