Mae’r ferch 23 oed o Gaerdydd yn canu, actio, beirniadu cystadleuaeth Cân i Gymru eleni, ac wedi perfformio o flaen y Frenhines yn agoriad swyddogol ein Senedd…

Beth sydd ar y gweill eleni?

Rydw i ar fin cychwyn ymarferion ar gyfer sioe gerdd newydd o’r enw Anthem gan Llinos Mai, sydd ymlaen yng Nghanolfan y Mileniwm ac mae hwnna am fod yn gyffroes iawn.

Mae hi’n sioe am hunaniaeth a dod o ardaloedd gwahanol o Gymru, ac mae hwnna yn cael ei ddathlu mewn byd ffug sydd fel Cân i Gymru. Lot o gerddoriaeth, lot o hwyl.

A beth sy’n ddoniol yw fy mod i yn beirniadu ar Cân i Gymru eleni, sy’n wych.

Hefyd wnes i ffilmo Gwesty Aduniad ac roedd e’n hyfryd bod yn rhan o’r straeon yma am bobol yn dod nôl at ei gilydd.

Rydw i’n caru’r straeon ryden ni’n creu, ond hefyd mae clywed straeon go-iawn a beth mae pobol wedi mynd trwyddo yn eu bywydau, yn anhygoel.

Ar y rhaglen rydw i yn croesawu pobol i’r gwesty, yn brysio o gwmpas yn gwneud yn siŵr fod popeth yn ei le, a jesd sicrhau fod y gwesteion yn cael amser hyfryd.

Oeddech chi wedi gweithio mewn gwesty o’r blaen?

Na!

Roedd angen dod a’r sgiliau actio mas!

Beth wnaethoch chi’r llynedd?

Heblaw am fwyta a chysgu loads yn ystod y pandemig, wnes i recordio’r gân ‘Pan ddo’i adre’n ôl’ gyda Ciwb.

Ond doeddwn i ddim wedi cwrdd â’r band tan i ni fod yn perfformio’r gân ar Noson Lawen, achos roedden ni yn recordio popeth ar wahân [oherwydd cyfyngiadau covid].

Felly cwrdd ar y diwrnod ffilmio yn Galeri Caernarfon, oedd yn wallgof… hollol wallgof!

A fuodd grŵp bach ohonom ni yn ffilmio [cyfres gomedi] Limbo dros yr Haf diwetha’, mewn tŷ lawr yn Grangetown yn cael llwyth o hwyl.

Ydach chi’n actores sy’n canu, neu yn gantores sy’n actio?!

Yn bendant cantores sy’n actio – cerddoriaeth yw’r peth mwyaf pwysig i fi.

Rydw i’n caru sgrifennu ac adrodd straeon, a drwy gerddoriaeth dw i’n teimlo y mwyaf cyfforddus yn gwneud hynny.

A pan ddaw hi at actio, y peth mwyaf pwysig i mi yw gweld wynebau newydd, yn enwedig yn y cyfryngau Cymraeg, yn cael eu gweld ar deledu.

Felly dw i’n teimlo yn hapus iawn i fod yn rhan o hynny fel merch mixed-race, yn dechrau gweld y newid yna o ran y straeon mae’r Cymry yn dechrau eu dweud a’u darlledu.

Am beth fyddwch chi’n ganu?

Mae wedi bod yn wych i gael yr amser i eistedd yn y stafell wely gyda’r piano, yn sgrifennu ac adrodd straeon newydd am dyfu fyny – rwy’n esgus bo fi’n gwybod beth fi’n gwneud, ond fi really ddim!

Mae yn lyfli i weithio hwnna allan ar biano – weithiau fi ddim yn gwybod sut fi’n teimlo tan i fi eistedd wrth ymyl piano.

Pa fath o gerddoriaeth sydd ganddoch chi?

Kind of folk pop, singer songwriter, eithaf ballad like… stori go-iawn gyda llais mawr.

Sut brofiad oedd canu gydag Eadyth o flaen y Frenhines yn agoriad swyddogol y Senedd y llynedd?

Od ac anhygoel!

Mae gweithio gydag Eadyth wastad yn amazing. Wnaethon ni gyfansoddi’r gân yn hela syniadau yn ôl ac ymlaen ar-lein at ein gilydd.

Ac ar y diwrnod roedd hi mor od am nad oeddwn i wedi perfformio yn fyw ers ages, a’r Frenhines yn dod.

Ac roedd e’ mor gyflym, fi bron ddim yn cofio hi. Wnaeth y Frenhines gerdded mewn, wnaethon ni chwarae, a wnaeth hi gerdded allan. Mor sydyn.

Ond roedd yn teimlo’n hyfryd i fod yn rhan o ailagoriad y Senedd, yn enwedig ar ôl y blynyddoedd rydyn ni wedi eu cael.

Roedd yn ddathliad hyfryd o fod yn Gymraeg. 

Beth yw eich atgof cynta’?

 Dw i’n cofio cwympo lawr y grisiau pan oeddwn i ryw dair oed… ac mae gen i dal gap yn fy nannedd hyd at heddiw, and I love it!

Sut fagwraeth gawsoch chi?

Fi yw’r person cyntaf yn fy nheulu i allu siarad Cymraeg – anfonodd Mam a Dad fi i gylch meithrin Cymraeg, ac rwy’n hapus iawn am hynny.

Ges i blentyndod hyfryd ac rwyf dal yn agos iawn at fy rhieni.

Beth yw eich ofn mwya’? 

Pobol fi’n caru yn marw. Dw i yn meddwl amdano fe trwy’r amser… ond ar yr un pryd, I’ll accept it when it comes.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini? 

Rydw i’n ffodus iawn i gael personal trainer ac mae hi wedi bod yn anhygoel.

Rydw i wedi stryglo gyda bwyd yn y gorffennol, ac weithiau fi dal yn, ac mae hi wedi helpu fi i ddeall bod mwy o waith meddwl yn mynd fewn i gadw yn heini, na jesd gwaith corfforol.

Beth sy’n eich gwylltio?

Pobol sy’n ymddangos pan maen nhw eisiau rhywbeth, a dim unrhyw bryd arall.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd? 

Bwyd Eidalaidd gyda Beyonce a Nain fy nhad, er mwyn cael cwrdd â hi.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Cariad cyntaf fi. Aeth popeth yn anghywir, roedden ni yn bwmpo mewn i’n gilydd, a jesd chwerthin trwy’r nos – a dyna beth oedd yn gwneud y sws mor lyfli!

Hoff wisg ffansi? 

Es i unwaith fel Beyonce yn ‘Single Ladies’, ac er fy mod i yn really oer trwy’r nos, it was a fabulous outfit!

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Popeth – fi ddim yn cysgu, o gwbl. Wna i gwympo i gysgu am ryw ddwy awr, a dyna fe.

Hoff ddiod feddwol? 

Tecila a thonic.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Rydw i yn caru llyfrau hunan-gymorth, felly Big Magic: Creative Living Beyond Fear gan Elizabeth Gilbert neu Women Don’t Owe You Pretty gan Florence Given.

Hoff air? 

Hiraeth – mae gen i datŵ ohono ar fy ngarddwrn.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Ges i fy nghusan gyntaf erioed ar deledu, ar y gyfres Gwaith Cartref… roedd hi’n gusan dda iawn hefyd!