Mae David TC Davies yn mynnu bod Llywodraeth Prydain yn deall gwerth S4C, ac nad yw rhewi cyllid y BBC am gael effaith andwyol ar y Sianel Gymraeg.

Gan mai’r BBC sy’n ariannu S4C, mae nifer yn poeni am effaith rhewi ffi drwydded y BBC ar deledu a radio Cymraeg.

Ond mae AS Mynwy, sy’n Ddirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Llywodraeth Prydain, yn mynnu bod S4C mewn dwylo da.