Mae hi bellach yn ddeg wythnos ers i’r cyfeillion gwleidyddol newydd, Mark Drakeford ac Adam Price, gamu ar risiau Senedd Cymru i gyhoeddi bwriad eu pleidiau i gydweithio ar bron i 50 maes polisi.

Eisoes mae ambell addewid wedi dwyn ffrwyth, fel prydau ysgol am ddim, ac mae peth gweithredu i’w weld ar yr argyfwng ail gartrefi.