Wrth i hangofyr y partïon barhau, does gan y blogwyr ddim cydymdeimlad. Esgus o gyhoeddiad gan yr heddlu oedd gan Dic Mortimer, yn rhybuddio pobol am ddihiryn ofnadwy sy’n rhydd …

“Ewch ato yn ofalus iawn, does ganddo ddim cywilydd, dim cydwybod, dim egwyddorion ac mi wnaiff beth bynnag y mae eisio. Peidiwch â thrafferthu galw’r heddlu; nhw ydi ei fyddin breifat. Peidiwch â thrafferthu rhoi gwybod i’r cyfryngau torfol, mae’r cyfan yn nwylo’r biliwnyddion sydd wedi ei roi mewn grym ac sy’n ei gynnal yno.” (dicmortimer.com)

Does gan John Dixon fawr o amynedd efo cefnogwyr Boris sy’n trïo dadlau nad ydi pobol gyffredin yn poeni am y partïon …

“Dyma’r cwestiwn: a ydi’r cyhoedd… sydd fel y mae Johnson yn dweud, eisiau i’r llywodraeth ymroi i lywodraethu, hefyd eisiau i lywodraeth wneud hynny gyda gonestrwydd a didwylledd, gan osod yr un rheolau arnyn nhw eu hunain ag y maen nhw ar eraill. Yn ôl yr un bobol sy’n dweud nad yw’r cyhoedd yn malio, ‘cadw at y gyfraith’ yw un o’r Gwerthoedd Mawr Prydeinig sy’n gwneud pobol yr ynysoedd hyn yn wahanol i dramorwyr. All y ddau beth ddim bod yn wir yr un pryd.” (borthlas.blogspot.com)

A does gan gyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fawr o amynedd efo esgus arall… fod rhaid bwrw ati i daclo Vladimir Putin a Rwsia …

“Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi ceisio gosod ei hun yn arweinydd yr ymateb Ewropeaidd i ymddygiad bygythiol Rwsia. Ei broblem yw nad oes yr un arweinydd arall yn Ewrop yn cymryd hynny o ddifri. All y Deyrnas Unedig ddim ei gosod ei hun yn arweinydd Ewropeaidd os yw’r farn ar ei Phrif Weinidog ei hun mor ddamniol… Yn anorfod fe fydd rhai yn barnu mai fy ngwleidyddiaeth sy’n gwbl gyfrifol am fy marn i ar hyn. Dyw hynny ddim yn wir. Fyddai dim yn well i’r Blaid Lafur nag i Boris Johnson barhau yn Brif Weinidog, gyda’r holl drafferthion hyn ar ei gefn.” (thenational.wales)

Ond, o ystyried rhai o’r polisïau pwysig eraill, mae Rebecca Wilks yn hallt ei beirniadaeth at Senedd Cymru am gefnogi rhai o ddarpariaethau mesur heddlu San Steffan …

“Wrth roi cefnogaeth i’r polisïau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei bod yn euog o lawer o’r un ymatebion bas, adweithiol â’r Ceidwadwyr yn San Steffan. Maen nhw’n dal i weithio dan y dybiaeth fod presenoldeb yr heddlu yn sichrau diogelwch y cyhoedd, er bod digwyddiadau’r ddwy flynedd ddiwetha’ – heb sôn am y ddwy ganrif ddiwetha’ – wedi tanlinellu’n ddiddiwedd nad yw hynny’n wir. Maen nhw’n cefnogi polisïau niweidiol, sy’n ymyrryd â phobol, oherwydd eu bod yn creu dyfyniadau hawdd am amddiffyn y cyhoedd. Petaen ni’n cael ein system gyfiawnder ddatganoledig, does dim i awgrymu na fyddai’n brae i’r un greddfau niweidiol.” (thenational.wales)

Ac ynghanol y cofio am ymosodiadau troseddol Sul y Gwaed yn Derry, roedd un cyn-Unoliaethwr, Terry Wright, yn cofio am ddegau o bobol eraill sydd heb wybod be ddigwyddodd i’w hanwyliaid …

“Ochr yn ochr â’r rhai sy’n cofio Sul y Gwaed, mae yna eraill sy’n byw heb wybod, gan obeithio am rywbeth arall; rhai sy’n cerdded strydoedd Derry a mannau eraill lle maen nhw’n pasio cyn-ymladdwyr a laddodd aelodau o’u teuluoedd. Maen nhw’n dwyn y boen yn dawel, yn teimlo bod eu colled wedi ei dibrisio ond yn dewis peidio â gadael i’r gorffennol eu diffinio.” (sluggerotoole.com)