Ar 13 Chwefror, 1962 fe gafodd Saunders Lewis – ysgolhaig, dramodydd, bardd a gwleidydd – ei wahodd i draddodi darlith flynyddol y BBC ar y radio. ‘Tynged yr Iaith’ oedd ei destun, ac roedd neges gref a dirdynnol y ddarlith yn ddigon i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr iaith.

Yn ei ddarlith enwog fe ddywedodd ei bod hi’n unfed awr ar ddeg ar yr iaith Gymraeg, a galwodd am weithredu anufudd-dod sifil. Dywedodd y byddai’n rhaid i bobol fod yn barod i dalu dirwyon ac wynebu carchar am eu daliadau. Mae hi’n un o’r darlleniadau pwysicaf yn hanes Cymru, wnaeth sbarduno’r protestio gan Gymdeithas yr Iaith wnaeth gychwyn yn 1963.

Yn 2013, fe gafodd recordiad o lais main Saunders yn traddodi’r ddarlith ei ddefnyddio yn y ddrama unigryw, Y Bont gan Theatr Genedlaethol Cymru. Bwriad y cynhyrchiad oedd dod â chynnwrf protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith hanner canrif ynghynt yn fyw eto ar strydoedd Aberystwyth ac ar Bont Trefechan.

Roedd pob aelod o’r gynulleidfa yn cael pâr o glustffonau yng Nghanolfan y Celfyddydau ar ddechrau’r sioe. Wrth deithio ar yr hen fysus deulawr i lawr i’r dref, roedd pawb yn cael y cyfle i wrando ar lais gwrol Saunders yn traddodi’r ddarlith. Dyma Arwel Griffiths, Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, yn egluro pam ei fod wedi defnyddio darlith Saunders fel prop theatrig, a beth yw ei mawredd hi yn ei farn e …

Cynulleidfa Y Bont – drama i gofio protest Pont Trefechan – yn gwrando’n astud. Llun gan Keith Morris/Theatr Genedlaethol Cymru

Pam wnaethoch chi benderfynu defnyddio ‘Tynged yr Iaith’ yn nrama Y Bont? 

Mae cynnwys a dylanwad y ddarlith radio hon yn gyfarwydd iawn i lawer, ond mae’r ffordd hefyd y mae Saunders yn ei thraddodi’r un mor gyfarwydd. Mae ei lais main, ei acen ddosbarth canol, y cryndod yn ei lais a’i arddull lled bregethwrol, glasurol yn fyw iawn yn ein cof.

Gyda mai radio oedd cyfrwng yr anerchiad, lle nad yw pryd a gwedd nac ystumiau yn cyfri dim, mae ei dylanwad, neu’r ffordd yr oedd (ac y mae o hyd) yn cael ei derbyn a’i phrosesu gan y gwrandäwr, yn anorfod, yn pwyso’n drwm ar lais, goslef, union eiriad a phwyslais.

Fel anerchiad radio, i ni’r Cymry, mae’r ddarlith hon yr un mor enwog yn gymaint rhan o’n diwylliant ag y mae i eraill anerchiadau Neville Chamberlain a Winston Churchill adeg yr Ail Ryfel Byd.

Byddai clywed actor yn ei thraddodi yng nghyd-destun cynhyrchiad theatr safle penodol Y Bont yn 2013, hanner can mlynedd union i’r diwrnod wedi protest Pont Trefechan, wedi bod yn gam, yn eilradd, rhywsut. Nid yn unig yr oedd hi’n bwysig i mi fel cyfarwyddwr y cynhyrchiad hwnnw bod y gynulleidfa’n cael eu hatgoffa o bwysigrwydd cynnwys y ddarlith yng nghyd-destun y brotest dorfol gyntaf un honno dros ein hawliau fel siaradwyr Cymraeg (yr oedd y cynhyrchiad yn ei drafod a’i goffáu), ond yr oedd yr un mor bwysig gen i bod ysbryd Saunders, fel petai, yno efo ni yn Aberystwyth y p’nawn hwnnw.

Ail-greu’r brotest ar Bont Trefechan. Llun gan Keith Morris/Theatr Genedlaethol Cymru

Sut oedd y recordiad yn gweithio? 

Roedd y gynulleidfa wedi ymgynnull yng Nghanolfan y Celfyddydau ar y bryn, yn teithio i lawr i’r dref ar nifer o fysiau double-decker o’r cyfnod. Y bwriad gyda hyn oedd adlewyrchu’r siwrne a wnaed i Aberystwyth (drwy’r eira) gan fyfyrwyr o rannau eraill o Gymru i ymuno yn y brotest. Gyda bod y siwrne honno i’r dre yn cymryd llai o amser na fyddai gwrandawiad o’r araith gyfan, bu’n rhaid ei golygu rhyw gymaint.

Cyn gollwng eu llwyth ar y Prom, roedd y bysiau yn mynd heibio’r Hen Orsaf Heddlu, lle’r oedd cast o fyfyrwyr prifysgol yn ail-greu’r brotest a gafwyd yno hanner can mlynedd yn gynharach (cyn bod y brotest yn symud i Bont Trefechan).

Roedd holl gynnwys clywedol y cynhyrchiad yn yr holl leoliadau’r p’nawn hwnnw (yn cynnwys araith Saunders) yn cyrraedd y gynulleidfa drwy glustffonau, gan ddefnyddio technoleg ‘disgo distaw’. Roedd gofyn bod y cyfan yn cael ei yrru o un ffynhonnell neu drosglwyddydd. Gosodwyd y trosglwyddydd ar y bws a oedd yng nghanol y prosesiwn i lawr i’r dre. Yr her wedyn oedd sicrhau bod y bysiau yn ystod y daith yn aros mor agos â phosibl i’w gilydd, neu nad oedd yr un yn crwydro’n rhy bell o’r trosglwyddydd.

Rhoddodd y daith honno i’r dref gyfle i’r gynulleidfa asesu a phrosesu’n o hamddenol neges Saunders yn ei araith. Ar y daith honno hefyd, wedi’u gwau rhwng prif nodau anerchiad Saunders, oedd y cefndir i Brotest Pont Trefechan, wedi’i gyflwyno gan rai o benseiri’r brotest honno, sef y Dr John Davies, Tedi Millward a Gareth Miles; a hwythau’n trafod sut yr oedd araith Saunders Lewis wedi eu hysbrydoli.

Roedd y teithwyr ar y bysus a oedd yn rhan o gynhyrchiad Y Bont yn 2013
yn gallu gwrando ar Saunders Lewis yn traddodi ei ddarlith ‘Tynged yr Iaith’. Llun gan Keith Morris/Theatr Genedlaethol Cymru

Beth yw mawredd ‘Tynged yr Iaith’ i chi? 

Does dim dwywaith na chafodd y ddarlith ddylanwad aruthrol. Wrth baratoi ar gyfer cynhyrchiad Y Bont yn 2013, cefais y fraint o holi’n uniongyrchol, nid yn unig y Dr John Davies, Tedi Millward a Gareth Miles, ond hefyd eraill a fu’n ffigyrau dylanwadol yng nghyd-destun sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac a oedd yno’r diwrnod hwnnw ym mhrotestiadau Aberystwyth yn 1963, flwyddyn wedi’r anerchiad radio enwog. Yn eu plith Meic Stephens, Robat Gruffudd, Menna Cravos, Joy Williams a Llinos Dafis. Clywais ganddynt am sut yr oedd araith Saunders wedi eu cyffroi a’u tanio i gymryd agwedd wahanol, fwy ymosodol tuag at geisio sicrhau dyfodol yr iaith.

Roedd ymgyrchoedd dros hawliau sifil pobl dduon yng Ngogledd America, dan arweiniad y Dr Martin Luther King ac eraill, heb amheuaeth wedi’u hysbrydoli; ac roedd Saunders, yn gelfydd iawn, wedi cyfeirio at Eileen Beasley yn ei ddarlith. Dwn i ddim a oedd o wedi bwriadu ei chyffelybu mewn rhyw ffordd i Rosa Parks; ond dyna yn anuniongyrchol a wnaeth, trwy wneud arwres ohoni, fel petai, yn ei araith, a gosod ei phrotest dawel a phenderfynol hi yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Llanelli (dros ei hawl hithau i dderbyn bil treth yn y Gymraeg) fel esiampl ac fel her i eraill.

Roedd Saunders, yn ei ddydd, yn anfodlon ar gyfeiriad Plaid Cymru o dan arweiniad Gwynfor Evans, ac yn arbennig ar eu polisi o gylch argae Tryweryn. Roedd am weld mudiad newydd yn tyfu, un a fyddai’n cymryd agwedd mwy gwrthryfelgar, a fyddai’n barod i weithredu’n uniongyrchol a di-drais; mudiad a fyddai’n arwain at ddim llai na chwyldro!

Gyda’r dylanwad a gafodd yr araith ar y genhedlaeth arbennig honno o bobol ifanc ym mwrlwm y 1960au cynnar, a oedd â thân gwleidyddol yn eu boliau, fe gafodd darlith Tynged yr Iaith, fwy neu lai, yr union effaith yr oedd Saunders wedi ei ddymuno.