Mae Cymraes sy’n gorrach ac yn academydd wedi llwyddo i berswadio un o brif siopau’r Stryd Fawr i newid yr enw ar eu melysion midget gems i mini gems.

Yn wreiddiol o Fangor, mae Dr Erin Pritchard yn ddarlithydd Astudiaethau Anabledd ym Mhrifysgol Hope Lerpwl. Mae hi hefyd yn actifydd dros gorachedd [dwarfism] fel yr eglurodd wrth gylchgrawn Golwg ddechrau’r wythnos.