Mewn blog o Gymru y mae un o’r dadansoddiadau mwya’ dysgedig hyd yma o bicil Boris. Gan dynnu ar ddiwylliant Groeg a Rhufain, mae Andrew Green yn ei weld yn enghraifft ‘berffaith’ o ddiffyg euogrwydd na chywilydd. Ac mae oblygiadau i hynny …

“Yn ei fywyd personol a chyhoeddus fel ei gilydd, dyw e ddim yn gallu gwerthfawrogi y dylai gael ei glymu gan unrhyw safonau moesol. Unig yrfa lwyddiannus Johnson hyd yma yw bod yn ddigrifwr a chlown… a chlown Shakespearaidd, heb ei rwymo gan foesoldeb, gyda thrwydded i ddweud beth bynnag a fyn, yw’r gymhariaeth fwya’ tebyg… ond mae clownio a grym yn bartneriaid peryglus… mae camddefnydd o rym wedi arwain at awdurdodaeth gynyddol. Mae’r rhai sydd mewn grym, heb gyfyngiadau cywilydd ac euogrwydd, yn fwyfwy awyddus i gyfyngu ar ryddid eraill – protestwyr, llysoedd, ffoaduriaid, senedd, etholwyr sy’n pleidleisio’r ffordd anghywir a llawer mwy… ac mae awdurdodaeth yn un cam at unbennaeth.” (gwallter.com)

Dros y Sul, roedd yna brotestiadau ynghylch yr union bwynt, gan gynnwys rhai yng Nghymru …

“Mae’n eironi, a fydd wedi ei nodi mae’n siŵr gan y miloedd o brotestwyr mewn ralïau… y byddai’r mesur heddlu, trosedd, dedfrydu a llysoedd y maen nhw’n ei wrthwynebu, petai’n dod yn gyfraith, yn golygu y gallen nhw fod wedi cael eu harestio am fynd ar y strydoedd i fynegi barn. Mae’r hyn sydd yn y fantol mor ddifrifol â hynna, wrth i lywodraeth Boris Johnson danseilio’r broses ddemocrataidd er ei lles ei hun, gweithred sydd wedi bod yn rhan ganolog o dactegau sawl unben tros y canrifoedd.” (peterblack.blogspot.com)

Roedd Tess Marshall o’r mudiad annibyniaeth Undod yn gweld pwrpas arall yn y duedd …

“Mae yna ddeddfau allweddol (yn rhan o raglen) sydd wedi’u creu i dawelu’r dde radical, hiliol sy’n arwain a gyrru’r blaid Dorïaidd. Gan fanteisio ar ymateb middle Englanders i’r rhyfeloedd diwylliant artiffisial a hangofyr Brexit, mae’r Blaid Geidwadol yn canoli grym yn y cabinet yn San Steffan ac yn sathru ar unrhyw wrthwynebiad neu rwystr i’w rhaglen lywodraeth ecsbloetiol a threisgar.” (thenational.wales)

Ac i Ifan Morgan Jones, dim ond cynrychiolydd ydi Boris Johnson …

“… dyw’r sgandal ddim yn fai un person ond yn fater o agwedd a diwylliant yn San Steffan a Whitehall. Dim ond ymgorfforiad dynol ydi [Boris Johnson] o wladwriaeth Brydeinig sydd fel petai’n credu bod un rheol iddyn nhw ac un arall i’r gweddill ohonon ni… mae’r diwylliant yma… wedi ei wreiddio’n ddwfn yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.” (nation.cymru)

Ac mewn un ffordd Albanaidd, mae Dafydd Glyn Jones eisio gweld rhagor o’r un peth…

“Petai raid i Boris fynd, pwy wedyn? Gweddïwn oll na fydd i’w blaid ddewis rhywun a fyddai’n llai amhoblogaidd yn yr Alban.

Oherwydd, y dyddiau hyn, yr Alban sy’n bwysig. Gwir fod gan Hanes driciau i fyny ei llawes bob amser, ond y foment hon nid ymddengys y digwydd dim byd o bwys yng ngwleidyddiaeth Cymru am o leiaf dair blynedd, gyda Phlaid Cymru wedi rhoi ei chardiau i gyd i ffwrdd. Beth am Jacob, o ran hwyl?” (glynadda.wordpress.com)