Beth fu’r gigs Cymraeg gorau erioed?!

Mae yn glamp o gwestiwn, ac yn fater o farn, wrth reswm.

Fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru eleni, mae’r trefnwyr wedi bod yn hel atgofion rhai o ddilynwyr mwya’ pybyr y Sîn Roc Gymraeg… 

Dr Ian Johnson – awdur, academydd a chynghorydd Plaid Cymru yn y Barri

Ian Johnson

Y gig gyntaf wnes i weld oedd Gorky’s Zygotic Mynci yn 1994 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Nedd. Mi welais i fideo ‘Merched Yn Neud Gwallt Eu Gilydd’ ar y teledu a phenderfynu perswadio fy mam i yrru fi i’r gig yn yr Eisteddfod.

Un o fy hoff gigs Cymraeg oedd gweld Tystion [y grŵp hip hop Cymraeg] yn lansio eu halbwm gyntaf yn y Barfly yn Llundain – noson wefreiddiol. Dw i’n cofio teithio i weld Melys yn perfformio yn Paradiso yn Amsterdam. Mae fe’n rhyfedd pan chi’n gwylio band Cymraeg yn perfformio tu allan i Gymru – mae’r Paradiso yn eglwys anferth yng nghanol un o ddinasoedd enwocaf y byd a dyma lle’r oedd y band yn canu yn yr iaith Gymraeg.

Weles i Super Furry Animals yn chwarae ym Montreal yng Nghanada hefyd gan o’n i’n digwydd bod yno. Ac, wrth gwrs, ni fydd unrhyw un oedd yna byth yn anghofio gwylio nhw yn Toulouse fel rhan o wŷl yn ystod haf bythgofiadwy yr Ewros yn 2016. Miloedd o gefnogwyr Cymru yn canu am Hal Robson-Kanu, ac yn gwylio’r Super Furries wedi’u gwisgo lan fel yetis ar y llwyfan, noson wych!

Y darlunydd Mari Phillips sy’n berchen cwmni celf MythsNTits

Mari Phillips

Y llynedd wnes i fynd i Ŵyl Sŵn [yng Nghaerdydd] am y tro cyntaf lle weles i lot o fandiau Cymraeg yn perfformio. O’n i’n edrych ymlaen at weld Pys Melyn cyn i fi fynd a weles i nhw a Papur Wal ac roedden nhw’n wych. Mor, mor fywiog! O’dd yr awyrgylch a phopeth o gwmpas Stryd Womanby dros yr wŷl ac ar hyd y penwythnos yn amazing, yn hollol cŵl, ges i gymaint o hwyl ac o’dd e mor braf gweld y ddinas yn dod nôl yn fyw eto ar ôl popeth sydd wedi digwydd.

Tomos Dafydd, cyflwynydd gyda BBC Radio Cymru

Tomos Dafydd

Fy hoff atgof ac un o’r rhai cyntaf sydd gen i o fynd i gig yw i weld Race Horses. Roedd e’n rili chwerw felys – eu gig olaf nhw oedd hi, roedd e’n anghygoel, mi oedd gymaint o egni yn yr ystafell, wnaethon nhw chwarae’r classics. Rwy’n dod o Aberystwyth ac yn nabod Meilyr [Jones] a Dylan [Hughes]. O’dd e mor neis achos wnaethon nhw chwarae hefo’r line-up gwreiddiol hefo Alun Gaffey ac yn y blaen. Roedd e’n emosiynol dros ben ac mi wna’ i gofio am y noswaith yna am weddill fy mywyd.

Richard Chitty, sylfaenydd cwmni recordiau Bubblewrap yng Nghaerdydd

Richard Chitty

Fy gig gyntaf erioed oedd yn 1999 pan es i draw i Langollen i wylio Catatonia – mi’r oedd Gorky’s Zygotic Mynci a Big Leaves yn cefnogi. Doeddwn i ddim wedi clywed am yr un o’r ddau o’r blaen, ac mi’r oedd hi’n gig syfrdanol. Ar ôl y noswaith hon mi wnes i gwympo mewn cariad hefo gigs Cymraeg, a mynd ymlaen i wylio llwyth o gigs dros ogledd Cymru yn y blynyddoedd i ddilyn a dechrau fy nhaith yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth.

Llion Roberts a Seb Goldfinch o’r band Cotton Wolf

Llion Roberts a Seb Goldfinch

Seb: Fy hoff atgof o gerddoriaeth Cymraeg yw gweld The Gentle Good yn chwarae mewn eglwys hardd yn Nhreganna – mi wnaeth [Gareth Bonello] berfformio hefo band llinynnau a phres. Mi’r oeddwn i wedi ysgrifennu’r darnau ar eu cyfer ac nid oeddwn erioed wedi medru dychmygu sut y byddai’r darnau yn swnio’n fyw ac mi oedd yn noswaith hyfryd iawn.

Llion: Pan oeddwn i tua 14 oed mi es i i weld Big Leaves a Topper yn chwarae mewn tafarn ym Metws-y-coed. Mi’r oedd yn anhygoel. Ro’n i’n gwybod o’r eiliad hwnnw mai dyna beth oeddwn i eisiau ei wneud – mi’r oedd hi mor ysbrydoledig i fi yn 14 oed ac mi wnaeth arwain fi lawr y llwybr cerddorol yma dw i wedi’i ddilyn.

Katie Hall o’r band Chroma

Fy hoff atgof miwsig Cymraeg i oedd gweld Melin Melyn yn perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd y llynedd. Roedd pawb yn dawnsio yn agos at ei gilydd ar y bryn bach o flaen llwyfan Rising ac o’dd y perfformwyr mewn masgiau hyll ac o’dd yna gymaint o egni, ac ysbryd gwych, oedd e’n wyllt. Jest anhygoel.

Daniel Minty, sylfaenydd Minty’s Gig Guide, Caerdydd

Daniel Minty

Mae’n rhaid mai un o fy hoff atgofion miwsig Cymraeg yw Castle Emporium yn 2017, pan wnaeth Dydd Miwsig Cymru gymryd drosodd Stryd Womanby. Dw i’n credu, mwy nag unrhyw beth arall, roedd cwrdd â’r cerddor Rene Griffiths, a oedd wedi dod draw o Batagonia i fod yn rhan o Dydd Miwsig Cymru, yn syfrdanol. Doedd e ddim fel unrhyw beth o’n i wedi ei weld o’r blaen, felly mi oedd sgwrsio hefo fo am Batagonia a’r iaith yn wych. Hefyd pan ddechreuodd e siarad Cymraeg roedd ganddo twang Sbaeneg ond eto’n siarad gydag acen Gymraeg, ac mi’r oedd hynny’n wych.

Mi’r oedd y diwrnod cyfan yn anhygoel, gorffennodd Bryn Fôn y noson. Mi’r oedd yn beth newydd i mi, roeddwn i ond newydd ddechrau astudio newyddiaduriaeth yma yng Nghymru, yn siarad am gigs ac ati yng Nghaerdydd. Mi’r oedd yn un o’r straeon mawr yna sydd wedi aros hefo fi.

 

Bydd Dydd Miwsig Cymru yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener 4 Chwefror 2022.

Rhannwch eich atgofion ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #AtgofionMiwsig