Mae eich hybarch golofnydd Huw Onllwyn yn hoff o ollwng geiriau gwyllt yn rhydd ynghylch achosion cymhleth mewn llysoedd barn (Golwg 13/01/22). Cyn iddo fentro i’r gad ar y maes penodol yma, mi garwn awgrymu, gyda phob dyledus ostyngeiddrwydd, y dylai wneud fel a ganlyn:

darllen adroddiad y llys yn hytrach na’r brygowthan rhagfarnllyd mewn rhai papurau penodol;

gofyn i rywun sy’n dallt y dalltings esbonio’r *ffeithiau* iddo;