Dyma, ar ddechrau’r flwyddyn, yw’r amser i feddwl am yr ymgyrch yn erbyn tai haf achos os nad ydym yn gwneud rhywbeth gweledol bydd dim byd llawer yn digwydd. Mae’n rhaid i ni feddwl hefyd am bwy yr ydym yn cynnwys yn yr ymgyrch achos mae’n edrych i mi fod pobl yn meddwl bod hyn ddim ond yn broblem i’r siaradwyr Cymraeg. Dydy hyn ddim yn wir wrth gwrs, mae’n broblem i bob teulu ifanc yn ein gwlad, hyd yn oed i blant pobl sydd wedi symud i Gymru o dros y ffin. Y broblem yw’r bobl sydd yn prynu ta