Fe fyddai Syr Ifan ab Owen Edwards wedi bod yn falch o’r hyn y mae Urdd Gobaith Cymru yn ei gyflawni 100 mlynedd ar ôl iddo sefydlu’r mudiad ieuenctid.

Dyna farn Prif Weithredwr yr Urdd, sy’n grediniol fod y mudiad yn dal i allu gwneud “jobyn da” ganrif ers ei sefydlu.