Daeth 300 ynghyd yn ninas Bangor i wrthwynebu un o gyfreithiau newydd Llywodraeth Prydain sy’n bwriadu rhoi mwy o rym i’r heddlu blismona protestiadau.

Yr ofn yw y bydd modd, dan y ddeddf newydd, i’r heddlu roi stop ar brotestio sy’n cael ei ystyried yn “swnllyd” neu yn “cythruddo”.