Fel ro’n i’n awgrymu yn rhifyn diwethaf Golwg wrth gymryd cip yn ôl dros 2021 ym myd y campau, mae hen ddigon i edrych ymlaen ato yn 2022. Ond mae ansicrwydd ar hyn o bryd a fydd cefnogwyr yma yng Nghymru’n cael mynd i gemau, ac mae gemau di-ri yn cael eu gohirio wrth i chwaraewyr gael eu taro’n wael â Covid-19. Os bydd yr amodau’n caniatáu rywbryd eleni, mae’n siŵr fod ambell daith ar y gorwel i gefnogwyr Cymru a’r sêr Cymreig eleni hefyd. Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar yn y ga