Mae cyfnod Covid y Nadolig wedi tynnu sylw fwy nag erioed at wahaniaethau rhwng Lloegr a’r gweddill – a straeon Nos Galan yn tanlinellu hynny, yn ôl Mike Small ar bellacaledonia.org.uk yn yr Alban …
“Dim ond drychiolaeth y cyfryngau oedd y syniad o heidiau o ddathlwyr yn eu tartan yn tyrru’n ddiwrthdro dros y ffin… fod y cyhoedd rhywsut yn gandryll am y ‘cyfyngiadau’ ofnadwy sydd arnon ni, yn hytrach na’n bod yn eitha’ bodlon gyda’r mesurau iechyd cyhoeddus yr ydym yn eu rhannu… Yn hyn i gyd rhaid i’r cenhedloedd datganoledig gael eu gweld yn eithriadau, heb fod yn cadw’r nodyn, yn dragywydd ar yr ymylon…”
Roedd Ifan Morgan Jones yn sgrifennu ar y diwrnod pan gyhoeddodd Llywodraeth Lloegr na fyddai yna ragor o gyfyngiadau yno …
“Mae pedair rhan y Deyrnas Unedig wedi gweld yr un cyngor gwyddonol am Covid… Hyd yma, fe fu gwahaniaethau rhwng y cenhedloedd ar hyd a lled y cyfyngiadau ond, o ran yr angen am gyfyngiadau, maen nhw wedi bod yn weddol gytûn. Mae’r penderfyniad heddiw… yn newid hynny. Mae Mark Drakeford a Nicola Sturgeon yn credu bod angen cyfyngiadau dyfnach i achub bywydau. Dydi Boris Johnson ddim, o leia’ i raddau llai nag y mae’n poeni am ei boblogrwydd ar ei feinciau cefn gwrthryfelgar… o safbwynt Cymreig, mae’n debyg y bydd hyn yn lledu’r bwlch rhwng San Steffan a llywodraeth Mark Drakeford…”
A’r un ydi dehongliad John Dixon …
“Mae’r arweinydd a etholwyd gan bleidleiswyr Lloegr… yn rhoi blaenoriaeth i arian a chyfoeth tros fywydau ac iechyd… mae’r arweinwyr a etholwyd gan bobl Cymru a’r Alban, ar y llaw arall, yn rhoi’r flaenoriaeth i warchod dinasyddion… a’u greddf naturiol fyddai gweithredu’n gryfach oni bai eu bod wedi eu llyffetheirio gan reolaeth Llundain tros yr adnoddau angenrheidiol… Nid ein problem ni yw bod Cymru a’r Alban wedi meiddio mynegi gwahaniaeth… ond fod yr undeb yn ein hatal rhag gwahaniaethu cymaint ag y mae gwleidyddiaeth pleidiau yng Nghymru a’r Alban yn awgrymu y bydden ni wedi hoffi gwneud.” (borthlas.blogspot.com)
Ac mae un AS Llafur yn brolio’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i awgrymu gwahaniaeth mawr arall …
“… ‘gwleidyddiaeth oedolion’, ble mae anghenion pobol Cymru’n cael eu gosod uwchlaw gwleidyddiaeth plaid… mae’r system bleidleisio gyfrannol yn y Senedd wedi helpu i feithrin y diwylliant yma o gydweithredu a gwaith partneriaeth. Dyma fantais y byddai llawer ohonon ni’n hoffi ei gweld yn San Steffan… Yng Nghwm Cynon, allwn ni ddim fforddio rhagor o weithio fel arfer. Allwn ni ddim derbyn rhagor o weithredu tymor-byr, o sgorio pwyntiau gwleidyddol neu hawlio clod proffesiynol.” (Beth Winter AS ar labourlist.org)
Ydi hyn yn gwneud gwahaniaeth? Dyma’r dystiolaeth, yn ôl blog The Red Flag efo’u crynodeb o bolau piniwn …
“Cymru:
Un arolwg San Steffan:
Llaf 41%, Ceid 26%, PC 13%, DemRh 3%, Gwyrdd 6%, Reform 7%, Eraill 4%
(Eth.Cyff.2019 – Llaf 40.9%, Ceid 36.1%, PC 9.9%, DemRh 6.0%, Gwyrdd 1.0%, PlaidBrexit 5.4%, Eraill 0.7%)”