Pan nad yw yn cyflwyno rhaglenni fel ‘Pa fath o bobol sy’n prynu Pen Llŷn?’ ar Hansh, mae’r DJ 22 oed o Gaerdydd, Garmon ab Ion, yn astudio Athroniaeth yng Nghaeredin…

Beth sydd dan sylw yn eich rhaglenni i Hansh?

Yn y gyntaf ryden ni’n rhoi’r broblem ail dai ym Mhen Llŷn dan y chwyddwydr: Pwy sydd ar fai? Beth sydd yn cael ei wneud er mwyn datrys y broblem? Ydi Meibion Glyndŵr am ddychwelyd?