Mae ffrindiau ac amddiffynwyr slafaidd Boris Johnson yn hoff iawn o ddweud boi mor glyfar ydi o, efo’i wybodaeth am y Clasuron a’i eiriau mawr. Ond, o foi sydd i fod yn glyfar, mae o hefyd yn hynod o dwp … neu ddiog.

Mae llawer o’r dystiolaeth am ei gymeriad yn dod o’i ddyddiau ysgol (Eton) ac mae’n hawdd ei ddychmygu bryd hynny, yn torri rheolau ac wedyn yn ceisio defnyddio’i dafod a’i ben o wallt melyn i drio dod allan ohoni. Yn y byd gwleidyddol, mae o wrthi o hyd.