Beth sy’n cyfrif fel ffilm Nadoligaidd? Mae’r ddadl ymhlith fy ffrindiau wastad yn un eithaf dwys.

Nawr, yn ein tŷ o fyfyrwyr, cafodd y goeden Nadolig ei rhoi fyny lot yn rhy gynnar. Nid dewis fi gyda llaw, bai Siobhan oedd hynna – roedd hi’n benderfynol o brynu coeden ac yn, syml, doedd dim lot fawr o le yn tŷ ni gyda’r holl focsys ac ati, felly unwaith y prynwyd y goeden, roedd rhaid iddi fynd lan. Felly do, yn ein tŷ ni, ry’n ni wedi bod yn byw gyda thema’r Nadolig ers dros fis yn barod.