Rydw i’n siŵr y bydd hi’n eich synnu chi i ddysgu fy mod i, o ran fy natur, yn ddyn blin. Fel dw i’n mynd yn hŷn, mae hyn wedi tyfu gymaint nes bod rhaid i fi wneud ymdrech fawr i gadw’r golofn hon yn bositif. Byswn i’n hawdd iawn yn gallu cwyno am bêl-droed cyfoes yn wythnosol.