Cwpl o flynyddoedd yn ôl fyddai’r geiriau “private karaoke room” a gwahoddiad i’r fath le wedi gwneud i fi redeg i ffwrdd i gyfeiriad unrhyw dafarn ddistaw am beint bach unig. Ond efo’r byd nawr yn llawn pobl sy’ basically yn sbwng symudol llawn feirws, mae’r syniad o gael bŵzio mewn stafell wag yn apelio yn fwy ac yn fwy.