Yr un wythnos â chyhoeddi Y Goeden, yr Allwedd a Fi, roedd cyfieithydd y llyfr hwnnw, Manon Steffan Ros, yn dathlu cyhoeddi ei nofel fawr yn yr Unol Daleithiau mewn sgwrs hwyr dros y We.

Hanner nos ein hamser ni, nos Wener 19 Tachwedd, roedd Manon Steffan Ros yn sgwrsio dros Zoom am ei nofel boblogaidd gyda holwr ar ran siop llyfrau White Whale, Pittsburgh.