Nwyddau mislif am ddim trwy Lyfrgelloedd Gwynedd
Bellach mae modd i unrhyw un sydd eu hangen allu cael gafael ar nwyddau mislif am ddim trwy lyfrgelloedd Gwynedd.
Mewn partneriaeth â Gwasanaeth Addysg Cyngor Gwynedd, bydd y llyfrgelloedd yn lleoliadau dosbarthu nwyddau mislif am ddim, gyda’r nod o helpu i daclo tlodi mislif a chodi ymwybyddiaeth o fuddiannau amgylcheddol cynnyrch y gellir ei ailddefnyddio.
Ewch draw i Caernarfon360 i weld rhestr o’r llyfrgelloedd fydd yn darparu’r nwyddau mislif ecogyfeillgar yma.
Nwyddau mislif am ddim trwy Lyfrgelloedd Gwynedd
Gŵyl y Felin 1977
Teithiwch yn ôl mewn amser i Ŵyl y Felin yn 1977. Nabod rhywun o’r clip sydd ar BangorFelin360?
Mae Gŵyl y Felin wastad yn ddigwyddiad mae llawer o’r fro, a’r ardal ehangach, yn edrych ymlaen yn arw amdano.
Felly mae fflam y cyffro yn llosgi’n barod ar gyfer 2022, pan fydd yr Ŵyl yn ôl am y tro cyntaf ers y cyfnodau clo.
Yn y cyfamser, mae Gŵyl y Felin yn cynnal digwyddiadau Nadoligaidd – ewch i gefnogi os ydych chi’n byw yn yr ardal.
Blas o’r Bröydd
Dwy chwaer o Lanfair Clydogau ym Mhencampwriaethau’r Byd
Mae dwy chwaer ifanc, Llinos ac Elonwy Thomas o Lanfair Clydogau ger Llanbed, wedi bod yn cynrychioli Cymru yng Nghystadlaethau Ieuenctid Dartiau Cydweithredol Cwpan y Byd a Phencampwriaeth y Byd yn Gibraltar.
Roedd y ddwy chwaer, mewn tîm gyda John Price a Colin Thomas, yn cystadlu yn erbyn 18 o dimau eraill ar draws y byd.
Uchafbwynt y gystadleuaeth oedd y g.m yn erbyn yr Iseldiroedd (cyn-bencampwyr y gystadleuaeth yn y ddwy flynedd diwethaf). Ewch i Clonc360 i weld sut hwyl gafon nhw.
Dwy chwaer o Lanfair Clydogau ym Mhencampwriaethau’r Byd
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Marchnad Nadolig Bont, gan Enfys Hatcher Davies ar Caron360
- Nwyddau mislif am ddim trwy lyfrgelloedd Gwynedd, gan Mirain Llwyd Roberts ar Caernarfon360
- Cylch Ti a Fi Cywion Caron, gan Angharad Lloyd-Jones ar Caron360