Cymraes yw’r unig ferch o wledydd Prydain sy’n chwarae futsal yn broffesiynol…
A hithau’n brif gôl-geidwad Cymru, gan ennill naw cap dros ei gwlad, penderfynodd Alice Evans o Aberystwyth droi ei chefn ar bêl-droed.
Ond a hithau bellach yn canolbwyntio’n llwyr ar futsal, mae hi’n gobeithio y daw cyfle i wireddu breuddwyd Olympaidd yn ei champ newydd.