A hithau’n fis Rhagfyr, dyma ddod â’r golofn deledu nôl yn nwylo Emily Pemberton i’ch helpu i ddewis pethau i’w gwylio dros gyfnod y Nadolig…
2021: blwyddyn etholiad Senedd Cymru a COP26… ond hefyd y flwyddyn y mae Idris Elba wedi mwynhau chwarae cowbois mewn ffilms!
Yn gynharach yn y flwyddyn, cafodd Concrete Cowboy ei rhyddhau ar Netflix – lle gwelsom ni Elba yn chwarae rôl ‘estranged father’ i fachgen yn ei arddegau, Cole, (Caleb McLaughlin o Stranger Things).
Portread o gowbois trefol Philadelphia, yr heriau maent yn eu hwynebu – yn bennaf y ffaith bod yr awdurdodau yn benderfynol o’u gyrru allan o’u cartrefi – gyda thema weddol gref am deulu yn rhedeg trwy’r ffilm.
Dim lot fawr o action, na stunts; yn hytrach, ffilm sy’n delio efo perthynas tad a mab, a wedyn eu perthynas nhw efo’r gymuned o gowbois sydd o’u cwmpas.
Wedyn fe ddaeth ein hannwyl Idris nôl dros yr wythnosau diwethaf, efo The Harder They Fall – ffilm am gowbois, eto.
Mae wedi’i seilio mewn realiti… i raddau, ond realiti sy’n wahanol iawn ar yr un pryd.
Fi ddim yn jocan pan dw i’n dweud nes i ollwng swper fi dros y soffa ar ddechrau’r ffilm (genuinely, oedd angen i housemate fi estyn y kitchen roll), achos, wel, roeddwn i’n disgwyl tôn debyg i ffilm ddiwethaf Elba, o bosib.
Camgymeriad ar fy rhan i wrth edrych nôl – roedd yr antur wedi dechrau yn yr olygfa gyntaf un.
Mae cast The Harder They Fall yn cynnwys Idris Elba, Jonathan Majors, Regina King, a Delroy Lindo. Dyma rai, ie dim ond rhai, o’r enwau mawr. Mae’n debygol iawn, felly, y bydd yr actio’n dda fel man cychwyn – felly wnes i gymryd hynny’n eitha caniataol cyn hyd yn oed gwylio’r ffilm.
Prif ddiddordeb fi oedd popeth arall mewn ffordd: a dyma ffilm efo cast cryf, stori anturus a chymeriadau rhyfeddol.
Plot y ffilm, yn syml, yw taith Nat Love (Majors) yn mynd ati i ddial ar un o’i elynion, Rufus Buck (Elba) ar ôl iddo ladd ei rieni yn ystod ei blentyndod.
Dw i ddim yn gwylio Westerns fel rheol – dw i ddim rili yn nabod unrhywun arall sy’n gwylio nhw chwaith.
Mae gofyn i ffrindiau fi am y ffilmiau hyn wedi bod yn brofiad poenus a dweud y gwir… roeddwn i o dan yr argraff byddai pawb yn gwylio unrhywbeth efo cast a chymeriadau fel The Harder They Fall – ond dw i’n credu bod y ffaith bod hi’n Western wedi creu argraff wael, doedd neb yn awyddus iawn i’w gwylio!
Naill ai hynny neu efallai dyw pobl ddim eisie gwylio golygfeydd gyda gwaed yn mynd i bobman wrth feddwl am beth sy’n mynd ar y goeden Nadolig neu lle mae nhw’n mynd i brynu’r twrci y flwyddyn hon.
Iawn, bydd nifer yn awyddus i wylio Love, Actually neu Home Alone yr adeg yma’r flwyddyn… ond ni’n gwylio ffilmiau Nadolig bob blwyddyn – beth am drïo rhywbeth bach yn wahanol leni? A be well nag Idris Elba wedi gwisgo fel cowboi?
Fel nifer ohonoch chi, efallai, argraff fawr gyntaf fi o Idris Elba oedd ei rôl fel Luther – ro’n i’n rhy ifanc ar y pryd i wylio The Wire. O’n i dal yn rhy ifanc i wylio Luther ’fyd, ond doedd dim byd yn gallu perswadio mam i droi hwnna off y teledu!
Efallai nad ffilm Nadoligaidd i argymell i ffrind sydd yn edrych am pick me up yw hon, ond mae digon ohonyn nhw yn does?
Yn debyg i Concrete Cowboy, mae The Harder They Fall yn cymysgu bywyd go-iawn a ffuglen – pobl go-iawn, ond wedi plethu mewn i stori lwyr ffuglennol.
Dw i’n mwynhau’r math yma o ffilm, cyhyd â bod ddim angen i fi ymestyn fy nychymyg yn ormodol
Mae gofyn ymestyn dychymyg rywfaint wrth weld DCI John Luther ar gefn ceffyl yng nghefn gwlad Texas – ond ddim gormod!
Gyda The Harder They Fall, joies i’r gerddoriaeth – mae Jay-Z ymhlith cynhyrchwyr y ffilm – y stunts, y cast… yr unig wendid, wir, yw’r diffyg sylw i’r actorion llai blaenllaw – oedd siŵr o fod bach yn fwy diddorol na’r prif atyniadau.
Hyd yn oed os nad wyt ti’n un sy’n gwylio ffilmie cowbois (fel fi a fy ffrindie!) dw i wir yn meddwl bod rhywbeth i bawb fwynhau… wel, cyhyd â bod strong stomach gyda chi!