Mae nifer o’r blogwyr yn gweld mwy na chasgliad o bolisïau yn y cytundeb newydd rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Hyd yn oed yn Iwerddon, mae rhai’n gweld hyn yn safiad o bwys o ystyried y cyd-destun ehangach, o Brexit i agweddau Llywodraeth Prydain at ddatganoli. Dyma flog gan ddarlithydd o Brifysgol Dulyn …

“Mae arweinwyr Plaid wedi gwneud gwaith da o wthio Llywodraeth Cymru i’r chwith, gan ddyfnhau’r ‘dŵr coch clir’ y mae Llafur Cymru wedi ceisio ei greu rhwng Llundain a Chaerdydd ers dyfodiad datganoli yn niwedd yr 1990au a dechrau’r 2000au… mae’r cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru’n cynrychioli’r ffaith fod Cymru’n gymuned wleidyddol sy’n dod i oed ac yn atgyfnerthu hynny: cymuned sydd â’i diwylliant gwleidyddol yn gynyddol wahanol ac yn pellhau oddi wrth ei chymydog yn Lloegr yn sgil Brexit a Covid… mae agwedd ‘unoliaethol gyhyrog’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch Brexit wedi cau llywodraethau’r Alban a Chymru allan rhag cael rhan ystyrlon yn y trafodaethau, wedi sathru ar eu dewisiadau ac wedi canoli grym yn San Steffan. Ar y llaw arall, mae’r pandemig Covid-19 wedi dangos y bendithion i Gymru o gael penderfyniadau wedi’u datganoli. Y canlyniad yw llai o ffydd yn strwythurau’r Undeb… a rhagor o hyder yng ngallu Cymru i sefyll ar ei thraed ei hunan.” (Jonathan Evershed, iaces.ie)

Mi fyddai John Dixon yn gobeithio bod y Gwyddelod yn iawn – a’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd …

“Ychydig ddyddiau’n ôl, ymosododd cangen Cymru o’r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol ar y cytundeb rhwng Llafur a Phlaid gan ddweud ei fod yn ‘symudiad at annibyniaeth i Gymru’. Go brin mai fi oedd yr unig independentista i ddarllen yr adroddiad ac ochneidio, ‘O na fyddai’n wir!’ Allai honiad… ‘dros ben llestri’ arweinydd Plaid, fod hyn yn rhyw fath o ‘daliad ernes ar annibyniaeth’, wneud dim ond cynyddu teimlad y Torïaid o ddicter… mewn gwirionedd, wrth gwrs, does gan gynnwys y cytundeb fawr ddim i’w wneud ag annibyniaeth a fydd e ddim yn hyrwyddo’r mymryn lleia’ ar annibyniaeth. Er hynny, mewn ffordd arall, mae yn gam ar y daith a dyw hynny ddim yn ymwneud â’r cynnwys ond â’r ffaith fod y cytundeb yn bod o gwbl… yn yr ystyr o ychwanegu aeddfedrwydd… Efallai fod y Torïaid ychydig yn gywir, hyd yn oed os yw hynny am y rheswm cwbl anghywir.” (borthlas.blogspot.com)

Rhywle rhwng y ddwy farn y mae’r cyn-Aelod Seneddol, Cynog Dafis, wrth roi croeso cynnes iawn i’r cytundeb …

“Does dim gobaith y gall rhaglen mor uchelgeisiol â hon gael ei chyflawni o fewn tymor un Senedd, heb sôn am dair blynedd y cytundeb yma. Mae hynny’n golygu y bydd rhyw ffurf ar y cydweithio yma rhwng Plaid a Llafur (o bosib wedi’i gryfhau gan ambell un o’r Gwyrddion) gyda ni am lawer hwy… r’yn ni ar drothwy… degawd o waith caled, dwys, arloesol, adeiladol. Bydd Cymru’n wlad gyffrous, y lle i fod ynddo, yn enwedig i’r ifanc. Mae’r disgwyliad bron yn ddigon i wneud i fi ddymuno goroesi’r ddegawd.” (nation.cymru)