Dw i wedi dysgu lot fel Cymro sy’ wedi byw yn Llundain am 14 mlynedd, ond y peth sydd ar dop y rhestr yw pa mor lwcus ydw i i fod yn Gymreig. Fi wedi genuinely cael sawl sgwrs – rhai yn sobor, rhai… llai sobor – am pa mor ddiolchgar ydw i am gael fy ngeni yng Nghymru. Wnaeth hwn gael ei bacio lan wythnos diwetha pan es i Gaerdydd ar gyfer gig yn y Tramshed.