Ma’n anodd cyrraedd Cwpan y Byd. Ry’n ni’n gwbod hynny’n well na neb, a ninnau heb fod ers 1958 (ac ychydig yn lwcus i gael mynd bryd hynny!)

A’r tro hwn, ma’r system gymhwyso yn gymhlethach na’r arfer – gyda’r gemau ail gyfle yn cynnwys rownd gyn-derfynol a ffeinal yn lle dwy gymal yn erbyn un tîm.

Golyga hyn fod fi a hanner Twitter yn trïo gwitho mas y pyrmiwteshons yr wythnos dd’wetha’ ’ma… cyn gadel i Iolo Cheung (@iolocheung) neud e inni.