Fis diwethaf clywyd yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, yn cwyno am “obsesiwn” gwleidyddion Llafur a Phlaid gyda materion cyfansoddiadol.

Daeth ei sylw negyddol yn dilyn cyhoeddi sefydlu Comisiwn Cyfansoddiadol Cymru, sydd am edrych ar y ffordd orau o lywodraethu’r wlad – gydag annibyniaeth yn un opsiwn fydd dan sylw.

Ac er mawr eu siom o weld comisiwn wedi’i neilltuo i drafod y pwnc, mae’r Ceidwadwyr wedi cytuno i gymryd rhan yn y gwaith.