Mae yna filoedd o goed wedi’u torri er mwyn cynnwys yr holl erthyglau am COP26, ac yn y blogfyd mae yna rai sy’n gweld pethau o ongl fymryn yn wahanol hefyd. Holl bwrpas blogiad yr economegydd John Ball ar nation.cymru oedd tynnu sylw at y problemau newydd sy’n codi wrth drio datrys yr hen rai … ac at y croesddweud sydd wrth galon polisïau cyhoeddus …
“Cymerwch y cynlluniau ar gyfer tair mil o dai newydd yng ngogledd Abertawe. Cafodd caniatâd cynllunio ei wrthod ar sawl sail, gan gynnwys gwasanaethau lleol, isadeiledd, a thagfeydd traffig. Apeliodd y datblygwr a phenderfynodd arolygwr Llywodraeth Cymru wrthdroi’r penderfyniad. Mae gwasanaethau prin yn golygu y bydd angen car i fynd i ysgol neu siop, o leia’ un i bob tŷ, felly tair mil yn fwy o geir. Un o bwyntiau gwerthu [y tai] – dyna syndod – ydi eu bod yn agos at yr M4, sydd eisoes fel maes parcio am rannau helaeth o’r dydd …”
O sôn am dorri coed, mae yna ochr arall i’r polisi o blannu coed, yn ôl Janet Finch-Saunders, y llefarydd Ceidwadol, ar thenational.wales …
“Mae gan Lywodraeth Cymru’n agwedd at y Gymru wledig a fydd yn gweld llai o gynhyrchu a mwy o ddibyniaeth ar fewnforio. Un enghraifft allweddol yw’r ffordd o drin y polisi i blannu 43,000 hectar o goed newydd erbyn 2030, gan godi i 180,000 hectar erbyn 2050. Mae NFU Cymru wedi cyfri y byddai 180,000 hectar o goed yn golygu coedwigo 3,750 o ffermydd teulu yng Nghymru… rhaid i ni weithredu i sicrhau bod y coed iawn yn cael eu plannu yn y mannau iawn.”
Ac i Dafydd Glyn Jones, dyw’r syniad o ynni di-garbon ddim yn ddigon i gyfiawnhau’r polisi ffasiynol ddiweddara’ o osod adweithyddion niwclear bychain mewn mannau fel y Wylfa a Thrawsfynydd. A dyma rai o’r rhesymau pam …
“Y cysylltiad anodd ei osgoi rhwng unrhyw atomfa ac arfau niwclear. Mae hyn yn arbennig berthnasol yn achos Rolls-Royce: cwmni ‘amddiffyn’ ydyw yn bennaf erbyn hyn yn ei olwg ei hun ac yng ngolwg y tudalennau busnes… Ar gyfer pwy y mae R-R yn darparu’r arfogaeth? Ar gyfer llywodraeth Prydain Fawr yn gyntaf a phennaf, mae’n rhaid (er y gellir gwerthu i’r cythraul ei hun am bres).” (glynadda.wordpress.com)
Pwnc gwahanol, ond canlyniad annisgwyl arall. Ar ôl condemnio cenedlaetholwyr am fethu â chyfiawnhau annibyniaeth, mae Theo Davies-Lewis (thenational.wales) yn gweld cyfle newydd iddyn nhw …
“Mae’r llygredd sy’n bla yn San Steffan yn… allwedd aur i genedlaetholwyr… Mae’n sicr y caiff ei ddefnyddio gan Mark Drakeford i ddadlau ei achos tros ragor o reolaeth i Fae Caerdydd, a’r gwahaniaeth rhwng Llafur a’r Torïaid, ond dylai pobl yn rhengoedd Plaid Cymru a’r mudiad cenedlaethol ehangach fabwysiadu strategaeth tymor hir i ddangos pam y byddai Cymru’n well o gael ei llywodraethu mewn ffordd wahanol… Byddai dadlau tros lywodraethiant priodol i’n gwlad yn un ffordd o ddangos pam nad yw’r sefyllfa heddiw yn gynaliadwy.”