Enillodd Gareth Bale ei ganfed cap dros Gymru’r Sadwrn diwethaf, a beth sydd ar ôl i’w ddweud am chwaraewr gorau Cymru erioed? Rhywsut mae amser Bale yn Sbaen yn cael ei gam-bortreadu fel methiant. Yn ystod ei amser ym Madrid mae o wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith ac wedi sgorio dros gant o goliau. Ond mi wnes i edrych i mewn i’w ystadegau a sylwi mai dim ond tair gêm mae o wedi dechrau i Real Madrid eleni yn La Liga.