Ar drothwy rali arall yng Nghaerdydd i alw am degwch tai ac ar ganol trafodaethau covid, roedd sylw rhan o’r blogfyd ar wahanol gymunedau. Yng Nghymru, yn sgil penderfyniad i ganiatáu chwyddo maes carafanau Hafan y Môr yn Llŷn, Huw Prys Jones oedd un o’r rhai yn galw am newid yn y berthynas rhwng twristiaeth a ni …
“…rhaid cael rhagdybiaeth yn erbyn unrhyw gynnydd mewn llety, neu atyniadau ychwanegol, mewn ardaloedd sensitif os ydym am warchod eu cymeriad a’u hynodrwydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd cynghorwyr yn dadlau, mae’n siŵr, fel y gwnaethon nhw yn Hafan y Môr, bod eu dwylo wedi eu clymu gan bolisi cenedlaethol… ond yn achos ffordd osgoi Llanbedr, wnaeth arweinwyr gwleidyddol lleol ddim ymatal rhag beirniadu Llywodraeth Cymru. Byddai’n well, does bosib, petaen nhw’n sianelu eu hynni i herio’r hen bolisïau cynllunio cenedlaethol a thai sy’n gwneud cymaint o gam â’n hardaloedd gwledig.” (nation.cymru)
Yn y Llyfrgell Genedlaethol, maen nhw a chynllun Mapio Cymru wedi dechrau ar brosiect symbolaidd i hawlio’r hen wlad yn ei hôl, efo map sy’n rhoi’r cyfle i weld dim ond yr enwau Cymraeg …
“Mae gan lawer o leoedd yng Nghymru, boed yn drefi, pentrefi, bryniau neu draethau, ddau enw, neu fwy weithiau. Mae’r enwau yn Gymraeg bron bob amser yn enwau lleoedd gwreiddiol, enwau hynafol sydd yn llawn hanes. Mae’r enwau hyn fel arfer yn ddisgrifiadol neu’n cyfeirio at seintiau, penaethiaid neu gaerau a gollwyd ers amser maith. Mae’r fersiynau Saesneg o enwau lleoedd weithiau’n fersiynau diystyr o’r rhai gwreiddiol Cymraeg neu enwau a orfodir gan oresgynwyr canoloesol neu ‘foderneiddwyr’ Fictoraidd. Hyd yn oed heddiw mae adeiladau hanesyddol yn cael eu hailenwi yn Saesneg gan eu perchnogion newydd ac mae enwau Cymraeg yn cael eu gollwng o wefannau a mapiau o blaid dewisiadau Saesneg y bernir eu bod yn ‘haws i’w ynganu’.” (Jason Evans: blog.llyfrgell.cymru)
Mae yna elfen symbolaidd (yn ogystal â chyfleus) ym mhenderfyniad Cymdeithas yr Iaith i gynnal eu rali tai yng Nghaerydd, yn ardal yr hen ddociau …
“Mae wedi bod yn gyfleus i’r rhai mewn grym ein gwahanu ni fel cymunedau a’n chwarae ni yn erbyn ein gilydd. Dinas yn erbyn cefn gwlad. Cymry Cymraeg yn erbyn y di-Gymraeg. Ond yn y bôn, o Ben Llŷn i Butetown, yr un grymoedd sy’n bygwth ein cymunedu. Buon ni yn Nhryweryn yn yr haf ar safle cymuned a gafodd ei dinistrio, a byddwn nawr yn ymgynnull ar safle cymuned arall a gafodd ei chwalu er mwyn ailddatblygu’r Bae. Cymunedau gwahanol mewn nifer o ffyrdd oedd Capel Celyn a Bae Teigr ond cafodd y ddwy eu haberthu ar allor ‘cynnydd’ sy’n milwrio yn erbyn anghenion pobl gyffredin.” (Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ar nation.cymru)
A draw yn Glasgow, lle mae arweinwyr y byd wedi landio i drafod dyfodol y blaned, mae yna symudiad symbolaidd arall – Govan Rydd, sydd ag egwyddorion gwahanol …
“Mae’n amlwg i bobl bod natur yr hyn sydd wedi digwydd yn Glasgow tros yr wythnos ddiwetha’ yr un mor abswrd ac unrhyw ancien regime yn methu â gwrthsefyll llanw cynyddol ei chroes-dynnu mewnol ei hun. Mae systemau byd-eang wedi chwalu cyn hyn. Wrth i’r system fyd-eang bresennol farw, mae’n achosi poen ar raddfa sydd y tu hwnt i ddeall. All y system honno ddim newid: mae’r dystiolaeth yn glir; dyw hi ddim yn ‘adeiladu’n ôl yn well’ ond jyst yn ailsefydlu holl elfennau mwya’ peryglus, dinistriol a diraddiol yr economi ar ôl bwlch 2020…” (Christopher Silver ar bellacaledonia.org.uk)