Nantlle Vale yn cofio Mei
“Fel cefnogwyr clwb pêl-droed cefn gwlad, da ni gyd yn medru uniaethu hefo Wali, y cyfarfodydd pwyllgor o fri, y llumanwyr a’u penderfyniadau, trafod tic tacs cyn gêm… da ni gyd yn dipyn o Walis!”
Bydd cymaint o ffans pêl-droed ar draws y wlad yn cofio am y diweddar Mei Jones, a’i gymeriad hoffus yn C’mon Midffîld. Mae teyrnged hyfryd iddo ar DyffrynNantlle360, a bydd y clwb yn cynnal munud o gymeradwyaeth er cof amdano yn ystod eu gêm ddydd Sadwrn.
Beicwyr Caron yn codi arian mawr
Llwyddodd 140 o seiclwyr a’u cefnogwyr i godi dros £5,000 i elusen Tir Dewi yn ddiweddar. Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Glwb Seiclo Caron er cof am gyn-aelod poblogaidd o’r clwb, Rhodri Davies.
“Roeddwn yn falch o’r cyfle i allu talu teyrnged i Rhodri, ac roedd yr ymateb ar y dydd yn adlewyrchiad o’r parch ac ewyllys da tuag at Rhodri, a’r teuluoedd yn Pontargamddwr ac Alltddu,” medd Gwion James ar Caron360.
Cystadlu brwd yn Eisteddfod Lenyddol Llanarth
Sioned Howells oedd prif enillydd Eisteddfod Lenyddol Llanarth eleni. Y fydwraig o New Inn ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Tlws yr Ifanc, wedi cystadlu brwd wrth i’r beirniad Eirug Salisbury orfod dewis y goreuon o blith 125 o eitemau ar draws y pedwar cystadleuaeth.
Ewch i wefan Bro360 i ddarllen y feirniadaeth, i weld pwt o’r gerdd ddigri, a’r limrig fuddugol, ac i weld pwy aeth â hi!
Er nad oes gwefan fro gan ardal Llanarth (eto), mae’n bosibl i bawb yng Nghymru gyhoeddi cynnwys amlgyfrwng ar wefan Bro360 erbyn hyn. Felly ewch amdani os oes gennych stori!
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Canu tu fas cartrefi gofal, ar Caron360
- Archfarchnad yn Llanbed wedi bod ar gau am gyfnod, ar Clonc360
- Beiciwyr lleol yn cyfrannu dros £5,000 i Tir Dewi, ar Caron360