Mae tîm Rob Page yn herio Belarws nos Sadwrn, gyda gêm fawr yn erbyn Gwlad Belg i ddilyn…

Gwennan Harries

Mae’r sylwebydd Gwennan Harries yn teimlo y bydd tîm pêl-droed Cymru’n ffynnu o dan bwysau yn eu dwy gêm ragbrofol olaf wrth geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2022.

Bydd tîm Rob Page yn herio Belarws yng Nghaerdydd nos Sadwrn, cyn croesawu Gwlad Belg i’r brifddinas nos Fawrth.

Mae Cymru angen pedwar pwynt o’r ddwy gêm i orffen yn ail a sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.

Efallai y bydd y gêm gyntaf dipyn yn haws na’r ail, ond mae Gwennan Harries yn rhybuddio na all Cymru gymryd y naill gêm na’r llall yn ganiataol – er bod buddugoliaeth fawr dros Wlad Belg yn Ffrainc yn 2016 yn dal yn fyw yn y cof.

“Bydd e’n her anodd, yn amlwg, yn enwedig gyda Gwlad Belg yn un o’r timau gorau, gyda’r chwaraewyr gorau yn y byd,” meddai wrth Golwg. “Ond mae digon o hyder gan y garfan. Maen nhw wedi’i wneud e o’r blaen ddwywaith o ran rhoi eu hunain mewn sefyllfa dda iawn mewn gemau pwysig fel rhain. A fi yn teimlo ar adegau, mae Cymru’n dîm ar gyfer adegau’r gemau mawr yna.

“Weithiau mewn gemau cyfeillgar pan mae disgwyl i ni ennill yn erbyn timau, efallai, sydd o ran detholion yn llai na ni, tydyn ni ddim cweit yn perfformio i’r safon o gymharu gyda phryd mae pwysau arnon ni. Fi’n meddwl am Belg gartre’ cyn yr Ewros yn 2016, Hwngari yn amlwg cwpwl o flynyddoedd yn ôl hefyd. Roedd y perfformiadau yna’n anhygoel, felly pan mae’r pwysau ymlaen, ni yn dueddol o weld perfformiad cryf gan Gymru. Jyst gobeithio yn fwy nag unrhyw beth bod gyda ni garfan lawn gyda chwaraewyr fel Bale a Ramsey yn iawn i gychwyn.”

Dydy Gareth Bale ddim wedi chwarae yn 13 gêm ddiwethaf ei glwb – cyfnod sy’n ymestyn yn ôl i fis Medi – ac mae Aaron Ramsey yn dal i gryfhau ar ôl dioddef blinder cyhyrol. Bydd cael y ddau chwaraewr allweddol yn ôl yn holliach yn “anferthol” i obeithion Cymru, yn ôl Gwennan Harries.

“Hyd yn oed os tydyn nhw ddim yn ddigon ffit i ddechrau, jyst cael nhw a’u profiad nhw o amgylch y cae gyda’r garfan yn weddol ifanc hefyd, mae e jyst yn gymaint o hwb. Mae eu profiad nhw yn y sefyllfaoedd yma a’u profiad nhw o’r gemau mawr a’r achlysur mawr mor, mor bwysig. A does dim angen i fi ddechrau sôn am ba mor bwysig ydyn nhw o ran eu safon nhw ar y cae i ni.”

Aaron Ramsey

Canfed cap Bale

Pe bai e’n iach ac yn chwarae yn y naill gêm neu’r llall, byddai Gareth Bale yn ennill ei ganfed cap dros Gymru – dim ond yr ail chwaraewr erioed ar ôl Chris Gunter i gyrraedd y garreg filltir honno.

 “Prin iawn rydych chi’n gweld chwaraewyr o’r safon yna yn cynrychioli’u gwlad nhw gymaint o weithiau,” meddai Gwennan Harries.

“Weithiau mae’r clybiau mor awyddus i gadw nhw os oes anaf. Ond mae e wastad wedi gwneud ei hunan ar gael i chwarae i Gymru, ac rydych chi’n gallu gweld faint mae e’n mwynhau [gyda’i wlad] jyst o’r ffordd mae e. Mae’r garfan i gyd yn dweud faint o gymeriad yw e o gwmpas y dressing room, faint mae e’n cyfrannu oddi ar y cae. Ac mae hwnna’n helpu hefyd, y ffaith fod e wastad wedi joio bod yn rhan o’r awyrgylch yna a’r garfan. Ac mae jyst yn dweud cymaint amdano fe a’i bersonoliaeth e a faint mae e’n caru’i wlad e fod e wedi cyrraedd y rhif yna [o gapiau], sy’n anhygoel. Mae ennill cap ar y lefel ucha’ yn ddigon caled ynddo’i hun, ond mae gwneud e gant o weithiau jyst yn dweud popeth am ei gymeriad e, a’i safon e yn amlwg. A gobeithio bod llawer mwy i ddod.”

“Yswiriant” Cynghrair y Cenhedloedd

Mae’n debygol iawn fod Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle yn sgil eu perfformiadau yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Ond byddai gorffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol yn sicrhau gêm ail gyfle ychydig yn haws iddyn nhw. Bydd Gwlad Belg yn gorffen ar frig y grŵp, ond goliau yn unig sy’n gwahanu Cymru, sy’n drydydd, a’r Weriniaeth Tsiec uwch eu pennau – er bod gan Gymru ddwy gêm ar ôl, a’r Weriniaeth Tsiec ac un yn unig.

“Mewn ffordd, ti’n gallu meddwl bod y pwysau oddi arnon ni achos mae gyda ni’r yswiriant yna tu ôl i ni,” meddai Gwennan.

“Felly os ydyn ni ddim yn cael y pwyntiau sydd yn angenrheidiol i orffen yn ail yn y grŵp, wel o leia’ mae gyda ni’r yswiriant yna i gwympo ’nôl arno. Mae e jyst yn bwysig bo ni’n defnyddio’r gemau yma, yn amlwg i geisio mynd trwyddo, ond i baratoi ni ar gyfer y rowndiau nesaf, fydd yn her anferth yn amlwg. 

“Ry’n ni wedi rhoi ein hunain yn y sefyllfa yma sydd yn beth da, yn amlwg, fod popeth yn ein dwylo ni a dyna beth ry’ch chi’n wastad moyn. Rydych chi wastad moyn bod y sefyllfa o dan eich rheolaeth chi, felly ry’n ni’n mynd mewn i’r gêm yn hyderus. A fel dywedais i, fi yn teimlo fel taw ni yw’r tîm sydd yn perfformio pan mae’r pwysau arnon ni pan bo rhywbeth rili werth chwarae amdano. Gobeithio gewn ni’r un fath o awch yn y gemau yma.”

O ran trefn y gemau, mae Gwennan Harries yn teimlo ei bod hi o fantais i Gymru herio Belarws cyn y gêm fwyaf oll yn erbyn Gwlad Belg – ond nad yw’r naill gêm na’r llall am fod yn hawdd.

“Yn amlwg, mae pawb yn sôn am gêm Belg, ond mae rhaid i chi ganolbwyntio ar y gêm nesa’ sydd o flaen chi. A byddan nhw’n teimlo bod honna fynna iddyn nhw, yn amlwg jyst i roi sylfaen lawr cyn iddyn nhw chwarae yn erbyn Belg. Ond maen nhw’n methu mynd mewn [i’r gêm yn erbyn Belarws] yn rhy hyderus a’i gymryd e’n ganiataol bo nhw’n mynd i ennill a chymryd y triphwynt. Mae angen iddyn nhw frwydro, bydd hi’n gêm agos, wnewn nhw ei wneud e’n anodd i ni. Ac weithiau fi yn teimlo bo ni’n stryglo i dorri lawr timau fel hynna hefyd, felly yn amlwg, bydd [Robert] Page yn canolbwyntio ar sicrhau bod y bois yn canolbwyntio ar ddim byd ond y gêm yna.”

Kieffer Moore allan

Ni fydd Kieffer Moore ar gael i herio Belarws

Un chwaraewr sy’n sicr o fod allan o’r gêm yn erbyn Belarws yw’r ymosodwr Kieffer Moore, sydd wedi’i wahardd. Yn ôl Gwennan Harries, fe fydd e’n golled am fod arwyddion fod perthynas dda yn datblygu rhyngddo fe a Daniel James ym mlaen y cae.

“Mae e’n cynnig opsiwn hollol wahanol i ni. Ro’n nhw’n gweithio’n dda, roedd e’n atgoffa fi tamaid bach o Hartson a Bellamy, gyda’r strwythurau a’r systemau chwarae sydd gyda’r ddau ohonyn nhw. Mae colli’r opsiwn yna yn un mawr. Yn amlwg, does dim wir gyda ni chwaraewyr sydd yn cymryd ei le fe. Mae gyda ni lwyth o chwaraewyr sy’n gallu chwarae ar yr asgell ac i mewn, ond does dim lot o chwaraewyr mawr, y rhif naw gallech chi ddweud.”

Os yw Kieffer Moore yn golled fawr i Gymru, yna mae Romelu Lukaku am fod yn golled yr un mor fawr i Wlad Belg, ac yntau, fel Ramsey, wedi bod yn dioddef o flinder cyhyrol.

“Mae e’n un o’r chwaraewyr gorau yn y byd, ac mae cymaint o broblemau o ran ei symudiadau fe achos mae e mor gryf,” meddai Gwennan. “Mae e’n denu chwaraewr ychwanegol mewn i amddiffyn yn ei erbyn e ac wedyn mae e’n ddigon da i allu rhoi’r bêl i mewn oddi ar y sylfaen mae e wedi’i osod. Mae’n anodd iawn, iawn amddiffyn yn erbyn hynna. Mae e hefyd yn gyflym iawn, felly mae e’n gallu dod yn ddwfn i geisio derbyn y bêl ond mae e’n dal yn gwneud y rhediad ’nôl mewn sy’n ymestyn yr amddiffyn.”

Ond fydd Gwlad Belg ddim yn poeni’n ormodol am absenoldeb Lukaku, meddai Gwennan, gan fod digon o ddyfnder ganddyn nhw i lenwi’r bwlch.

“Pwy bynnag sy’n chwarae, pwy bynnag fydd yn nhîm Gwlad Belg, maen nhw reit lan fynna yn y detholion byd am reswm. Ond dyna beth ry’ch chi’n moyn. Chi’n moyn herio’ch hunain yn erbyn y timoedd gorau, ac mae’n gyfle da i Gymru. A fi yn teimlo hefyd, sa i’n credu fydd tîm Gwlad Belg yn edrych ymlaen i ddod i Gymru, yn enwedig yn gwybod fod popeth wedi sortio o’u rhan nhw. Ond sa i’n teimlo bo nhw’n dod fan hyn yn edrych ymlaen i’r gêm achos mae hi wastad wedi bod yn gêm anodd iddyn nhw. Bydd rhai o’r garfan ag atgofion o gwpwl o flynyddoedd yn ôl a’r awyrgylch a sut mae’r dorf wir yn helpu tîm Cymru.”