Mae Gŵyl y Felin yn ôl! 

“Ar ôl dwy flynedd hir” bydd gŵyl Felinheli yn ei hôl yn 2022. Mae Gŵyl y Felin yn un unigryw, gydag wythnos gyfan o ddigwyddiadau, gan gynnwys Noson Lawen, noson caws a gwin, cwis, a diwrnod y carnifal ei hun.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yn flynyddol ers cyn co’, a 2020 oedd y tro cyntaf iddi beidio bod ymlaen ers degawdau. Cadwch lygad ar BangorFelin360 i weld unrhyw gyhoeddiadau am drefniadau’r ŵyl dros y misoedd nesaf!