Prif stori wleidyddol yr wythnos oedd cyhoeddi sefydlu comisiwn ar lywodraethu Cymru. Ond i gyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, mae yna un broblem fawr o’r dechrau, ym maes llafur y panel arbenigwyr …

“Os nad yw’r comisiwn i fod i ystyried dim ond modelau lle mae Cymru’n ‘aros yn rhan annatod’ o’r Deyrnas Gyfunol, onid ydi hynny’n atal annibyniaeth rhag bod yn argymhelliad dilys? Mae angen eglurder. Rhaid i’r comisiwn fynnu’r egwyddor fod gan Gymru bob hawl i gael llywodraeth sy’n annibynnol ar San Steffan.” (thenational.wales)

Ond, a dweud y gwir, does dim angen i’r comisiwn gyfarfod: mae John Dixon yn gwybod eisoes beth fydd yn y casgliadau …

“a) Dim ond cefnogaeth leiafrifol sydd yna i annibyniaeth yng Nghymru; b) Beth bynnag, dyw Cymru ddim yn ddigon cry’n economaidd i fod yn wlad annibynnol; c) Mae’r rhan fwyaf o bobl Cymru eisiau i ddatganoli lwyddo; ch) Mae angen tacluso’r setliad datganoli gydag ychydig bwerau ychwanegol wedi’u datganoli; d) Rhywsut, mi fydd angen gosod y pwerau presennol mewn concrid fel na all Lloegr eu diddymu ar chwiw; dd) Byddai ffederaliaeth yn ffordd wirioneddol dda ymlaen, ac e) Mae pob Tori’n ddieflig.” (borthlas.blogspot.com)

Ond mae’r blogwyr yn dod yn ôl trwy’r amser at y cwestiwn mawr arall: sut Gymru fydd hi? Y tro yma, roedd J L George ar nation.cymru yn gobeithio y byddai’n wlad a allai gydnabod y gwir amdani ei hun …

“Mae’n debygol na fydd Cymru’r dyfodol yn iwtopia hudolus, ond gallai fod yn lle sy’n dewis mynd i’r afael ag elfennau gwaetha’ ‘Prydeindod’ yn hytrach na’u hatgynhyrchu. Gallai edrych ymlaen, yn hytrach nag yn ôl at oes aur ddychmygol a adeialdwyd ar imperialaeth ac ecsploetio creulon o ran dosbarth. Neu gallai suddo’n ôl i’r ‘Prydeindod’ adweithiol, ildio rheolaeth fesul ychydig i San Steffan Dorïaidd a cholli ei hunaniaeth yn y broses.”

Roedd blog y Llyfrgell Genedlaethol yn rhoi sylw i un enghraifft o gywilydd y gorffennol – y diffyg cyfle a sylw i chwaraewyr rygbi croenddu fel Billy Boston. Mae pethau’n dechrau newid, meddai David Moore …

“Mae dinas Caerdydd hefyd yn cydnabod cyflawniadau Billy bellach, ac yn ffodus mae hyn wedi digwydd yn ystod ei fywyd… Cymerodd amser hir, fodd bynnag, i gêm yr Undeb ddechrau cydnabod llawer o chwaraewyr o Gymru sydd wedi cyflawni pethau yn Rygbi’r Gynghrair. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o’r chwaraewyr gorau erioed yn unrhyw gôd rygbi. Ond er bod eu campau yn Rygbi’r Gynghrair wedi cael eu dathlu yng ngogledd Lloegr ers talwm, anaml mae hyn wedi bod yn wir yng Nghymru. Arwyr anghofiedig rygbi Cymru oedd y rhain.” (blog.llyfrgell.cymru)

A tybed pa ddewis fyddai llywodraeth Cymru annibynnol yn ei wneud wrth benderfynu ar ddyfodol ysgolion bach yn y wlad. Yn achos presennol Ysgol Abersoch, mae gan Dafydd Glyn Jones air o gyngor tactegol i Blaid Cymru …

“Wrth gefnogi cadw’r ysgol byddai gobaith i wleidyddion Plaid Cymru, lleol a chenedlaethol, gadw’u cefnogaeth ymhlith yr etholwyr ac efallai ychwanegu ati. Wrth ddewis cau’r ysgol, neu eistedd ar ben llidiart, byddant yn sicr o golli’r gefnogaeth. Ennill – colli, dyna’r dewis… fy newis tactegol… fyddai diogelu fy nghefn drwy gefnogi pentrefwyr Abersoch yn ddiamwys; byddwn wedyn mewn cryfach sefyllfa i wrthwynebu ffatri arfau niwclear arall yn Nhrawsfynydd.” (glynadda.wordpress.com)